Chwe phlaid am gipio Ceredigion ar 12 Rhagfyr

Enwau’r 6 ymgeisydd fydd yn mynd ben ben yn Etholiad San Steffan wedi’u cyhoeddi.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae enw’r chwe ymgeisydd fydd yn mynd ben ben yn Etholiad San Steffan yng Ngheredigion fis nesaf wedi’u cyhoeddi.

Er gwaethaf y ‘pact’ rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd ar lefel y DU, ni fydd unrhyw un o’r pleidiau hynny’n sefyll i lawr yng Ngheredigion yn yr etholiad er mwyn uno yn erbyn Brexit.

Yr ymgeiswyr

  • Gethin James – y Brexit Party
  • Amanda Jenner – y Blaid Geidwadol
  • Ben Lake – Plaid Cymru
  • Dinah Mulholland – y Blaid Lafur
  • Chris Simpson – y Blaid Werdd
  • Mark Williams – y Democratiaid Rhyddfrydol

Sawl cyfri fydd y tro hwn?

Ar ôl cyfri deirgwaith yn 2017, enillodd Ben Lake y sedd dros Blaid Cymru gyda mwyafrif o 104 pleidlais. Y noson honno, llwyddodd i ddisodli Mark Williams, a oedd wedi bod yn Aelod Seneddol ar Geredigion ers 2005.

12 Rhagfyr yw diwrnod yr etholiad, a bydd y cyfri yn digwydd yng nghanolfan Hamdden Aberaeron y noson honno.

* * *

Wyt ti am helpu pobol Ceredigion i ddilyn hynt a helynt yr etholiad? Cysyllta â Bro360 i ddarganfod sut y galli di ddefnyddio dy wefan fro newydd i ohebu ar yr wleidyddiaeth o safbwynt lleol.