Mae enw’r chwe ymgeisydd fydd yn mynd ben ben yn Etholiad San Steffan yng Ngheredigion fis nesaf wedi’u cyhoeddi.
Er gwaethaf y ‘pact’ rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd ar lefel y DU, ni fydd unrhyw un o’r pleidiau hynny’n sefyll i lawr yng Ngheredigion yn yr etholiad er mwyn uno yn erbyn Brexit.
Yr ymgeiswyr
- Gethin James – y Brexit Party
- Amanda Jenner – y Blaid Geidwadol
- Ben Lake – Plaid Cymru
- Dinah Mulholland – y Blaid Lafur
- Chris Simpson – y Blaid Werdd
- Mark Williams – y Democratiaid Rhyddfrydol
Sawl cyfri fydd y tro hwn?
Ar ôl cyfri deirgwaith yn 2017, enillodd Ben Lake y sedd dros Blaid Cymru gyda mwyafrif o 104 pleidlais. Y noson honno, llwyddodd i ddisodli Mark Williams, a oedd wedi bod yn Aelod Seneddol ar Geredigion ers 2005.
12 Rhagfyr yw diwrnod yr etholiad, a bydd y cyfri yn digwydd yng nghanolfan Hamdden Aberaeron y noson honno.
* * *
Wyt ti am helpu pobol Ceredigion i ddilyn hynt a helynt yr etholiad? Cysyllta â Bro360 i ddarganfod sut y galli di ddefnyddio dy wefan fro newydd i ohebu ar yr wleidyddiaeth o safbwynt lleol.