Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.
Uchafbwyntiau:
- Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
- Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
- Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
- Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!
Gwion Ifan, o Glwb Pontsian yn cyfweld Gwion Thomas, hefyd o’r Clwb wedi’r Unawd Sioe Gerdd
Gwion Ifan, o Glwb Pontisan yn cyfweld Heledd Llwyd, hefyd o’r Clwb cyn yr Unawd Sioe Gerdd
Pwy fydd yn fuddugol yn y brif seremoni?
Endaf sy’n dal y gyfrinach!
? CANLYNIAD – ENSEMBLE LLEISIOL ?
1af – Clwb Llanwenog
2il – Clwb Caerwedros
Cydradd 3ydd – Clwb Tal-y-bont a Chlwb Pontsian
Pwy sy moyn gweld meimo llwyddiannus Llanwenog o nos Iau?
Tro cyntaf yn cysdadlu
Criw Parti Llefaru Clwb Bro’r Dderi
Hoffai Clwb Llanwenog ddiolch i Enfys ac Eirian am ein helpu gyda’r ensemble!
Aelodau Clwb Caerwedros yn trafod sut aeth yr Ensemble Lleisiol:
Aelodau Clwb Llanwenog yn trafod sut aeth yr Ensemble Lleisiol: