Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.
Uchafbwyntiau:
- Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
- Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
- Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
- Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!
Fideo o Alwena Mair Owen, aelod blwyddyn gynta o Glwb Pontsian yn trafod ei phrofiadau.
Lowri Pugh-Davies, sydd wedi creu’r Goron eleni’n trafod y gwaith aeth mewn i’w creu.
Diolch I @Bro__360 am ddangos video byw o'r cystadlu yn Steddfod @CeredigionYFC ynghyd a'r holl ganlyniadau a;r rhoi ar Utube. Wedi methu mynd ohewydd y glaw #bwhw. Gobeithio y caiff pawb siwrne ddiogel gartre
— Ann Evans (@AnnEvan38411804) November 2, 2019
Twm – ti wedi neud hi! ??
FFRWD BYW O’R CADEIRIO AR DUDALEN FACEBOOK BRO360 WAN!
Seremoni coroni a chadeirio CFfI Ceredigion
Posted by Bro360 on Saturday, 2 November 2019
Gwion Ifan, o Glwb Pontsian yn cyfweld Gwion Thomas, hefyd o’r Clwb wedi’r Unawd Sioe Gerdd
Gwion Ifan, o Glwb Pontisan yn cyfweld Heledd Llwyd, hefyd o’r Clwb cyn yr Unawd Sioe Gerdd
Pwy fydd yn fuddugol yn y brif seremoni?
Endaf sy’n dal y gyfrinach!
? CANLYNIAD – ENSEMBLE LLEISIOL ?
1af – Clwb Llanwenog
2il – Clwb Caerwedros
Cydradd 3ydd – Clwb Tal-y-bont a Chlwb Pontsian
Pwy sy moyn gweld meimo llwyddiannus Llanwenog o nos Iau?