Ble mae’r madarch yn lleol?

Canllaw i rai o fadarch bwytadwy gorau y rhan hon o Gymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Nid yw’r tymor madarcha ar ben eto, a bydd digon o gyfleoedd i hel y rhai gorau i’w bwyta cyn y gaeaf. Dyma rai eithaf hawdd i’w hadnabod, sy’n tyfu yn ardal gogledd Ceredigion.

Madarch y maes; agaricus campestris; field mushroom.

Fel mae’r enw yn ei awgrymu, mae’r madarch hyn yn tyfu mewn meysydd a thir agored llawn glaswellt, yn enwedig lle mae anifeiliaid wedi bod yn pori. Gall madarch y maes amrywio o ran eu gwedd, ond ar y cyfan maen nhw’n debyg i’r madarch cyffredin sydd ar werth mewn archfarchnadoedd.

Pan fyddant yn ifanc, maen nhw’n eithaf crwn, ond wrth aeddfedu maen nhw’n fwy gwastad a llai crwn, nes bod y cap bron â bod yn fflat. Mae’r goes yn wyn, eithaf byr, ac esmwyth, gyda chylch tenau (neu ‘ring’) tua chanol y goes, neu yn nes at y cap. Gall y cylch ddiflannu wrth iddynt aeddfedu. Nid yw’r dagell (‘gills’) wedi ei chysylltu â’r goes.

Dyma fadarchen gyffredin a hawdd i’w hadnabod, ac os ewch am dro yn gynnar yn y bore drwy gaeau amaethyddol, rydych yn siŵr o’i gweld.

Wiscen gron; boletus edulis; cep/penny bun.

Dyma, mae’n debyg, y fadarchen gorau i’w bwyta yn ein hardal ni, ac un o’r saffaf, am nad yw’n debyg i fadarch gwenwynig. Mae’n weddol fawr: mae’r cap rhwng 7cm – 30cm. Gan amlaf bydd y cap yn lliw brown golau, ond gall fod yn frown-goch, gan welwi tua’r ymylon. Mae iddi deimlad llaith, lled-ludiog. Mae’r goes yn fawr o’i chymharu â’r cap, ac mae fel rheol yn dew iawn; ond gall amrywio o ran ei siâp: gall fod yn oddfog neu’n hirach ond eto’n dew a phraff ar ei hyd, ond mae bron bob tro yn glybog. Gwyn yw’r cig. O dan y cap mae ’na lawer o diwbiau mân, yn hytrach na thagell, ac maent yn wyn pan mae’r fadarchen yn ifanc, ond yn troi’n felyn-wyrdd wrth iddi aeddfedu. Dylech dynnu’r tiwbiau i ffwrdd cyn coginio’r fadarchen (maen nhw’n dod yn rhydd yn hawdd iawn).

Y lle gorau i hel y rhain yw coedwigoedd ffawydd, ond gallan nhw fod yn tyfu mewn unrhyw goedwig.

Glawlen y bwgan; lepiota procera; parasol mushroom.

Dyma fadarchen hawdd i’w hadnabod, yn bennaf oherwydd ei maint. Gall dyfu hyd at 30cm! Mae’r cap yn siâp lled-hirgrwn pan fo’r fadarchen yn ifanc, ond mae’n ymagor wrth iddi aeddfedu, ac mae arno ‘gennau’ (‘scales’) brownaidd. Yng nghanol y cap, mae yna big neu deth fechan. Mae’r goes yn hir a syth, gyda chwydd wrth y bôn. Mae’r dagell yn wyn, ac nid yw’n gysylltiedig â’r goes.

Gallwch ddod o hyd iddi mewn meysydd a phorfeydd, a hefyd wrth ymyl coedwigoedd, ac weithiau ymysg y coed eu hunain. Gall ymddangos hefyd mewn gerddi ac ar lawntiau. Y cap yn unig sy’n dda i’w goginio: mae’r goes yn gau.

Wystrysen y coed; pleurotus ostreatus; oyster mushroom.

Mae’r fadarchen hon yn tyfu ar goed, yn hytrach na’r ddaear. Mae’n tyfu mewn clystyrau dwys, un ar ben y llall, ar fonion coed. Siâp tebyg i gragen sydd i’r capiau, ac maent yn esmwyth a llaith; maent yn amrywio rhwng 5cm ac 16cm, ac mae’r ymyl yn gwyro i lawr rhywfaint. Mae’r capiau ifanc yn dywyll iawn, ond wrth aeddfedu maent yn mynd yn fwy llwyd-frown. Mae’r goes fechan sydd ganddi yn wyn, ac mae’r dagell yn lliw hufennog.

Bydd angen ei choginio yn araf ac yn ddigon hir i sicrhau bod y cig gwydn yn meddalu. Bydd fel rheol yn tyfu ar goed collddail.

Siantrel; cantharellus cibarius; chanterelle.

Mae’r siantrel hefyd yn fadarchen hawdd i’w hadnabod ar gownt ei lliw oren-felyn, nid annhebyg i felynwy. Yn ogystal â hynny, mae’n arogli’n debyg i fricyll. Mae gan ei thagell wead tebyg i wythiennau, ac maen nhw’n aml yn croesi ei gilydd. Mae i’r capiau siâp adnabyddus: pan fydd yn ifanc, mae’n amgrwm, gan wastadau rywfaint wrth aeddfedu cyn ymdebygu i dwndis gydag ymylon afreolaidd. O ran maint, bydd rhwng 5cm – 8cm ar draws, ac mae’r goes tua 4cm – 7cm o hyd.

Maent yn tyfu mewn coedwigoedd collddail a bythwyrdd fel ei gilydd.

Coden fwg anferthol; lycoperdon giganteum; giant puffball.

Oherwydd ei maint anferthol a’i siâp, amhosib fyddai camgymryd y fadarchen hon am unrhyw beth arall. O’r gwahanol fathau o goden fwg sydd, dyma’r mwyaf, a gall fod hyd at 31cm ar draws. Mae’r madarch ifanc yn grwn, ond wrth dyfu bydd yn dechrau gwastadau rhywfaint, nes ymdebygu o ran ei siâp i bwmpen. Mae ganddi groen gwyn hufennog a llyfn, ac mae ‘r cig yn wyn tu fewn. Dim ond pan fydd y cig yn wyn y mae’n dda i’w fwyta; aiff yn felynaidd wrth aeddfedu, ac ni ddylai fwyta wedyn.

Mae’n tyfu mewn meysydd a phorfeydd, ac yn enwedig lle mae deunydd llysieuol yn pydru, megis tomennydd compost.

Cap inc afler; coprinus comatus; shaggy ink cap.

Dyma fadarchen gyffredin iawn sydd i’w gweld yn aml mewn gerddi ac wrth ymyl hewlydd. Gall fod yn weddol fawr – hyd at 23cm. Ond wrth iddi dyfu’n hŷn ac yn dalach mae’n dechrau ymdreulio, neu ymddatod, gan droi’n ddu ac yn ludiog ac yna’n hylifol (sef tarddiad ei enw ‘cap inc’). O achos hyn, mae angen ei bwyta yn ifanc, cyn i’r cap ddechrau ymagor ac ymddatod. Ond mae’n hawdd gwybod pryd mae’n iawn i’w bwyta oherwydd bydd yn siâp silindraidd ac yn wyn i gyd. Mae gan y cap wead ‘blewog’ anwastad. Anodd iawn fyddai camgymryd madarchen arall am hon.

Peidiwch â bwyta madarch gwyllt oni bai eich bod yn sicr eich bod wedi adnabod y rhywogaeth gywir.