Cadeirydd newydd i Gymdeithas yr Iaith

Mae Cadeirydd newydd, newid enw, a chreu grŵp iaith hamdden ymhlith uchafbwyntiau’r CCB.

Mererid
gan Mererid

Heddiw, dydd Sadwrn, 12fed o Hydref yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith, etholwyd nifer o swyddogion newydd gan gynnwys Bethan Ruth Roberts fel Cadeirydd newydd.

Pwy yw Bethan?
Mae Bethan yn byw yn Aberystwyth yn ogystal â bod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, lle’r oedd yn rhan greiddiol o ymgyrchu i gadw Neuadd Pantycelyn.

Fe fu Bethan yn gweithio fel Swyddog Maes y Gogledd i Gymdeithas yr Iaith rhwng 2015 a 2017, cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 2018. Bu’n rhan bwysig o drefniadau Gŵyl Drysau Agored (gydag Arad Goch) a gynhaliwyd ym Mawrth 2019 – gŵyl theatr plant a phobl ifanc rhyngwladol. Mae bellach yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu gyda mudiad UCAC (Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru).

Diolchodd Bethan i Osian Rhys, y cyn-gadeirydd am ei holl waith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Bethan – “Mae’n mynd i fod yn gyfnod diddorol i’r Gymdeithas – yn arbennig yng Ngheredigion, gyda pharatoadau ar gyfer Eisteddfod Tregaron 2020 yn rhan greiddiol o’r gwaith. Ond mae hefyd nifer o gyfleoedd i’r Gymdeithas amlygu problemau gydag effaith diffyg tai ar yr iaith, pwyso ar Gynghorau Sir i hybu’r Gymraeg, a sicrhau bod y continwwm iaith yn cael effaith bositif ar addysg ein plant”.

Bydd Bethan yn cefnogi’r ymdrech i ddatganoli darlledu, gan gefnogi’r aelodau sydd yn gwrthod talu eu trwydded teledu a sefydlu’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, sydd yn cwrdd ar y 22ain o Hydref.

Newid enw
Cytunwyd hefyd yn y Cyfarfod Blynyddol i fabwysiadu “Cymdeithas yr Iaith” fel y prif enw, gan ddefnyddio “Cymdeithas yr Iaith Gymraeg” a’r “Gymdeithas” hefyd ar adegau.

Iaith Hamdden
Cytunwyd i greu grŵp penodol i edrych ar sut i hybu’r Gymraeg fel iaith hamdden – gan gydnabod fod gweithgareddau chwaraeon a thu allan i’r ysgol yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg. Bydd y grŵp yma yn adeiladu ar ymgyrch a gafodd ei lansio yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn yn gynharach eleni.

Cytunwyd hefyd fod gwaith Cymdeithas yr Iaith bob amser yn cael eu cynnal gyda golwg i leihau ôl-troed carbon ac ystyried eu heffaith amgylcheddol.

Yn olaf, cytunwyd i gyfuno’r Senedd a’r Cyngor gan greu Senedd gref fyddai yn rhoi llais cydradd i’r holl swyddogion.