Mae ‘ardal caffis’ yn Aberystwyth yn wag, a ffens wedi ei chodi o’i hamgylch. Roedd y cynllun ar safle yr Hen Ysgol Gymraeg i fod wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth eleni.
Dechreuodd y gwaith ym mis Mehefin y llynedd, ac mae cannoedd o filoedd o bunnoedd wedi’u buddsoddi yn y gwaith.
Yn wreiddiol, soniwyd y byddai hyd at 150 o swyddi yn cael eu creu o ganlyniad i’r datblygiad, sydd wedi’i arwain gan Evannance Investment Co Ltd.
Yn ôl Mark Strong, Cynghorydd Tref yn Aberystwyth, mae cyswllt amlwg rhwng y safle gwag a’r hinsawdd economaidd anwadal, yn enwedig yng nghysgod Brexit.
‘Llai o bobl ag arian’
“Dyw’r sefyllfa ddim mor dda ag oedd hi. Mae llai o bobl ag arian i’w wario. Y broblem yw, i gynnal caffis fel ‘na, bydd rhaid cael pobl yn dod yma trwy gydol y flwyddyn.
“Yn amlwg, mae nifer y myfyrwyr wedi lleihau dros y 5 mlynedd diwethaf, a hefyd y sefyllfa ariannol yn y wlad. Ro’n i’n darllen yn The Economist y diwrnod o’r blaen, ac roedd yn dweud bod sawl biliwn o bunnoedd wedi diflanni o economi Prydain oherwydd Brexit.
“Sai’n dweud mai dyna’r stori lawn, ond yn amlwg, os yw hyder mewn busnes yn diflannu, os yw prosiectau yn colli arian – buddsoddiadau sydd wedi deillio o’r UE –bydd cnoc lawr y lôn gyda’r holl fusnesau sy’n cynnal y fath economi.
“Os oes llai o brosiectau yn digwydd, a llai o bobl yn cael eu cyflogi ar y prosiectau hynny, bydd llai o bobl yn Aberystwyth gyda swyddi da, parhaol. Mae angen pobl gyda swyddi da, parhaol i fynd allan, cymdeithasu, a gwario arian mewn caffis.
Y stryd fawr yn dioddef
“Mae sawl siop ar y stryd fawr wedi cau ers tro hir nawr. Doedd hyn ddim yn digwydd cyn 2016, felly mae rhywbeth yn digwydd. Mae’n raddol.
“Hyder yw y peth. Mae angen hyder yn yr economi i bobl deimlo’n ddigon cyfforddus a dewr i fenthyg arian o fanc a dechrau y math yna o fusnes. Mae cymaint o risg ynddi.
“A hefyd y ffaith bod siopau cadwyn cenedlaethol – caffis cadwyn cenedlaethol a rhyngwladol – wedi dechrau symud i Aberystwyth. Maen nhw wedi hela o leiaf un caffi i’r wal: MG’s. Roedden nhw wedi dinistrio caffi gweddol lewyrchus oherwydd daeth mwy nag un ohonyn nhw wedi dod i’r dref.”
Cwmni yn ‘hyderus’
Dywedodd llefarydd ar ran Evannance Investment Co Ltd: “Rydyn ni’n delio gyda rhai darpar-denantiaid, ond does dim byd yn sicr ar y foment.
“Mae’r sefyllfa economaidd wedi cael effaith ar y marchnata, a chael tenantiaid i mewn, ond fel cwmni rydyn ni’n hyderus y bydd pobl yn seino lan, ac mae asiantiaid yn dal i hysbysebu’r safle.
“Gyda’r amserlen, mae’n anodd dweud beth sy’n mynd i ddigwydd a phryd.”