Achub Cartref Henoed yn Aberystwyth

Fforwm yn galw am adolygiad o benderfyniad i gau cartref henoed Jasper House yng nghanol Aberystwyth.

Mererid
gan Mererid

Mae grŵp trawsbleidiol Fforwm Gofal Henoed Gogledd Ceredigion yn galw am adolygiad o benderfyniad Abbeyfield Cymru, i gau cartref henoed Jasper House sydd yng nghanol Aberystwyth.

Mae mam Dr Lucy Gough yn un o drigolion yn y cartref a dim ond 2 fis mae’r elusen wedi ei roi iddi ddod o hyd i gartref arall.

Dangosodd y grŵp eu cefnogaeth i ymgyrch i ofyn i’r elusen adolygu eu penderfyniad gan roi amser i weld a oes ffyrdd i achub y cartref.

Mae pedwar o drigolion yn byw yn y cartref, ac mae’r cartref yn unigryw gan fod hawl gan y trigolion i adael a byw’n annibynnol ond gyda chefnogaeth. Mae felly yn step cyn yr angen am gartref preswyl parhaol.

Mae Ben Lake, yr aelod seneddol, Elin Jones, yr aelod cynulliad a Mark Williams, y cyn-aelod seneddol yn gofyn i Abbeyfield Wales roi amser ychwanegol i edrych ar opsiynau amgen.

Mae Dr Lucy Gough yn y broses o greu grŵp “Ffrindiau Ty Jasper”, ac os byddech yn hoffi cefnogi Lucy gyda’r ymgyrch, cysylltwch ar goughlucy@googlemail.com.