Mwrdwr yn y Marine!

Ffansi noson mas llawn dirgelwch? Noson wych i grŵp o ffrindiau neu unigolion chwilfrydig.

gan Dana Edwards

Galw pob darpar dditectif ar gyfer y Great British Bump Off yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth

Y tu ôl i bob llofruddiaeth mae miliwn o gyfrinachau! Ac fe ddatgelir y cyfan mewn noson Llofruddiaeth Ddirgel sydd i’w chynnal yng Ngwesty’r Marine nos Wener 5ed Gorffennaf. O edrych ar amserlenni teledu mae rhaglenni ditectif a choginio yn hynod o boblogaidd a bydd y noson hon yn cyfuno’r ddau gan fod yna lofruddiaeth yn digwydd ar set y Great British Bake Off.

Nid yw’r trefnwyr yn addo y bydd Paul Hollywood a Prue Leith eu hunain yno, ond bydd y cast o actorion lleol yr un mor ddifyr a deifiol!

Llofruddiaeth yw’r drosedd waethaf y gall unrhyw un ei chyflawni yn erbyn rhywun arall – mae’n llawn drama, yn llawn canlyniadau, mae’n newid bywyd cymaint o bobl, a dyna pam, wrth gwrs, rydym wedi ein swyno gan y genre hwn. Mae ffuglen dditectif fodern yn deillio o waith Edgar Allan Poe The Murder in the Rue Morgue a ysgrifennwyd ym 1844, ac mae cymaint o awduron gwych wedi parhau â’r traddodiad o ganiatáu i ni weld bywydau pobl eraill yn cael eu chwalu, ond o bellter diogel – gan gynnwys Malcolm Pryce sy’n gwneud Aberystwyth yn lle peryg dros ben.

Mae penwythnosau Murder Mystery yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Aeth perthynas i un o’r trefnwyr, Fflur Edwards am benwythnos o’r fath yn Telford yn ddiweddar. ‘Daeth hi’n ôl wedi mwynhau’r profiad gymaint, gan ddweud ei fod yn beth mor hwyliog i’w wneud gyda grŵp o ffrindiau, roeddwn i’n meddwl y byddai’n dda gwneud rhywbeth tebyg yma yn Aberystwyth – ond am un noson yn unig!’ Cynhelir y noson yn Saesneg ond y nod yw codi arian I gefnogi gwaith Cylch Meithrin y dre, sydd wrth gwrs yn rhoi cyfleon trwy gyfrwng y Gymraeg i blant bach.

Mae croeso i bawb i’r digwyddiad, grwpiau o ffrindiau neu unigolion (a fydd yn eistedd gyda sleuths o’r un anian). Mae tocynnau, sy’n cynnwys pryd dau gwrs yn £35, ac ar gael drwy gysylltu â cylchmeithrinaberystwyth@gmail.com neu alw yng Nghylch Meithrin Aberystwyth, Boulevard Saint Brieuc.

Dweud eich dweud