Y DDOLEN Gorffennaf 2021

Papur bro Ystwyth ac Wyre yn llawn dop o’ch straeon chi.

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)
Y DDOLEN_Gorffennaf

Ydi chi wedi pigo lan eich copi o Y DDOLEN Gorffennaf eto?

28 tudalen o newyddion yr ardal ac erthyglau amrywiol. Mae croesair poblogaidd Siân Lewis a chwilair arbennig ar thema’r Ewros i’ch cadw’n fisi hefyd!

 

Beth tybed sydd wedi tynnu sylw Ann M

. Davies ym myd natur mis yma? Difyr yw darllen ei arsylwadau yn Nodiadau Natur.

Mae ein gohebydd yng Nghapel Seion, Eirlys wedi mynd ati i ddysgu mwy am yrfaoedd dewisedig pobl yr ardal. Darllenwch am hanes gwaith Mrs Jaimie Thomas mis yma.

Yn ôl mewn hanes aiff Mari Morgan a ni yng ngholofn Cornel y Beirdd mis yma drwy gyflwyno darlun o’i wythnos arferol pan yn ferch ifanc yn y pedwardegau a’r pumdegau.

Cawn flas ar rinweddau meddygol nifer o blanhigion mewn addasiad o un o fyfyrdodau zoom Gofalaeth Llanilar.

Y rhan olaf yn y gyfres o gynnyrch Eisteddfod y DDOLEN a rhaid diolch unwaith eto i bawb fu’n cystadlu. Gobeithio i chi gael blas ar ddarllen y deunydd.

Sioned Rees-Jones yn adrodd hanes Cangen Merched y Wawr Llundain yn ei thrydedd erthygl o Lundain.

Beti Griffiths yn dathlu pen-blwydd arbennig un o gymeriadau Llanilar, Anwen Walters yn Aros i Feddwl.

John Williams yn mynd a ni ar daith o amgylch Llanfihangel y Creuddyn yn Mynd am dro.

Yn ogystal â holl newyddion ein pentrefi a’n hysgolion gan ein gohebwyr lleol.

Rydym yn gobeithio gallwn gynnig tanysgrifiad i gopi pdf o’r DDOLEN yn fuan fel eich bod yn medru derbyn copi o’r rhifyn diweddaraf ar ddiwrnod cyhoeddi. Cadwch lygad allan am fwy o wybodaeth am hyn.

Yn y cyfamser dyma gynnwys copi pdf o rifyn mis Mai i’n cyfeillion ym mhedwar ban byd i’w fwynhau!

Dweud eich dweud