Mae trigolion yng Ngheredigion yn mynd i elwa ar lwybr cyd-ddefnyddio newydd yn dilyn cyllid Grant y Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru, sy’n gweinyddu Grant y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, wedi dyfarnu bron i £1.5 miliwn i Gyngor Sir Ceredigion i adeiladu cam cyntaf llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr a fydd yn helpu i wella’r cysylltiad rhwng Aberystwyth a Chomins Coch, ac yn dilyn camau ychwanegol yn y dyfodol, gwella’r cysylltiad rhwng Aberystwyth a Phenrhyn-coch a Bow Street.
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon:
“Rwy’n hynod falch o glywed bod y Cyngor wedi cael yr arian grant hwn i ddechrau adeiladu’r cyswllt teithio llesol newydd hwn. Oherwydd maint y cynllun bydd yn cymryd cwpl o flynyddoedd i gwblhau’r cyswllt llawn â Phlas Gogerddan lle bydd yn cysylltu â Bow Street a Phenrhyn-coch drwy’r rhwydwaith llwybrau cyd-ddefnyddio presennol a adeiladwyd gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig i drigolion Comins Coch a disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Comins Coch oherwydd bydd gan y llwybr newydd gyswllt uniongyrchol. Datganodd y Cyngor argyfwng hinsawdd byd-eang yn 2020 a bydd ehangu’r rhwydwaith teithio llesol yn y Sir yn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i drigolion wneud teithiau cerdded a beicio er mwyn lleihau’r defnydd o gerbydau, helpu i leihau allyriadau carbon, a chyfrannu at uchelgeisiau o ran aer glanach wrth ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed a phob gallu fyw bywydau iachach a hapusach.”
Y gwaith cynllunio
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae swyddogion wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r cynllun hwn ar y cyd â nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid, sydd wedi cynnwys sicrhau tir er mwyn gallu adeiladu’r llwybr cyd-ddefnyddio newydd. Mae’r gwaith datblygu hwn wedi cynnwys rheoliadau Draenio Cynaliadwy ac ecoleg, cael caniatâd cynllunio, ac mae gwaith datblygu’n mynd rhagddo er mwyn gallu symud ymlaen i’r gwaith adeiladu yn y dyfodol.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhanddeiliad allweddol i’r prosiect ac wedi rhyddhau tir ar gyfer adeiladu’r llwybr rhwng Bow Street, Gogerddan a Phenrhyn-coch. Mae’n parhau i gefnogi’r prosiect sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Sir Ceredigion, a fydd yn helpu i greu cyswllt ‘Campws i Gampws’ rhwng Campws Gogerddan, sy’n cynnwys ArloesiAber a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a champws Penglais.
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Henson:
“Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd gwaith adeiladu ger Ysgol Gynradd Comins Coch yn dechrau yn ystod gwyliau haf yr ysgol er mwyn helpu i leihau’r amhariad ar rieni a disgyblion. Mae lloches feiciau newydd eisoes wedi’i gosod yn yr ysgol i helpu i annog disgyblion a staff i feicio i’r ysgol. Mae’r Cyngor mewn deialog barhaus â Llywodraeth Cymru a swyddogion Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n rheoli Cefnffordd yr A487 er mwyn cydlynu gwaith adeiladu ar hyd y rhan hon o’r cynllun.”
Cysylltu dau gampws
Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor ac Arweinydd Gweithredol ar Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’n bleser cefnogi’r datblygiad hwn a hwyluso’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor drwy ddarparu rhagor o dir a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i gysylltu campws Gogerddan a champws Penglais er lles ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Bydd y gwaith hefyd yn cyfrannu at hyrwyddo beicio a cherdded fel dulliau amgen o deithio carbon isel wrth i’r Brifysgol weithio tuag at sefydlu ystâd garbon niwtral erbyn 2030.”
Am ragor o wybodaeth am Deithio Llesol yng Ngheredigion ac i weld cynlluniau drafft y cynllun hwn, ewch i dudalen we Teithio Llesol y Cyngor.