Hoffech chi dynnu lluniau hydrefol penigamp ar gyfer Instagram? Neu hoffech chi ddysgu enwau Cymraeg holl goed y goedwig? Os felly beth am ymuno â’ch Menter Iaith leol a mynd ‘Ar Gered’?
Teithiau cerdded cyfrwng Cymraeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion yw Ar Gered sydd wedi profi yn hynod o boblogaidd. Bydd y teithiau yn dychwelyd ddiwedd mis Medi gyda’r cyntaf mewn cyfres o anturiaethau hydrefol yng nghoedwigoedd Dyffryn Ystwyth.
Gan ddechrau yng Ngelli Ddu ger Trawsgoed ddydd Sadwrn, 30 Medi, bydd y gyfres yn parhau i fyny’r dyffryn gyda theithiau yng nghoedwigoedd Grogwynion, Coed Maenarthur a Hafod.
- 30 Medi – Gelli Ddu ger Trawsgoed
- 21 Hydref – Grogwynion ger Llanafan
- 25 Tachwedd – Coed Maenarthur ger Pont-rhyd-y-groes
- 30 Rhagfyr – Hafod ger Cwmystwyth
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae Ar Gered yn ffordd wych o gwrdd â ffrindiau hen a newydd, i ddysgu am ardaloedd amrywiol Ceredigion a’r Gymraeg ar draws y sir. Rydym yn croesawu pob un sydd â diddordeb, p’un a ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn dysgu ac yn awyddus i ymarfer neu am gael blas cychwynnol ar yr iaith. Byddwch yn siwr o glywed hoff ymadrodd neu air Cymraeg newydd!”
Mae pob taith oddeutu 7 cilomedr mewn hyd a’r cerdded ar lefel hawdd-cymhedrol ar hyd llwybrau coediog hyfryd, ond sydd hefyd yn gofyn am ychydig o ffitrwydd ar gyfer ambell riw. Mae’r teithiau yn agored i bawb ac mae croeso hefyd i gŵn addfwyn sydd ar dennyn a phlant yng nghwmni rhiant/gwarchodwr.
Er bod y teithiau yn rhad ac am ddim, mae cofrestru yn ofynnol. Gwnewch hynny trwy gysylltu ag arweinydd y teithiau, sef Steffan Rees o Cered: steffan.rees@ceredigion.gov.uk.