Gwasanaeth straeon lleol gan bobol leol yw BroAber360, ac mae’n rhan o gynllun Bro360 gan gwmni Golwg.
Crëwyd y wefan gyda cymdogaethau gogledd Ceredigion i fod yn fan canolog ar-lein ar gyfer rhannu a thrafod llwyddiannau, dyheadau, a bwrlwm y fro.
Mae BroAber360 yn adlewyrchu ac yn hybu diwylliant y fro trwy gyfrwng newyddion, straeon a thrafodaeth.
Rydym fel criw lleol wedi diffinio bro Aber i gynnwys pob man o Dre’r Ddôl i Lanrhystud ac o Aberystwyth i Gwm Ystwyth; neu’r holl bentrefi a phlwyfi sy’n cyfateb i ardaloedd y 4 papur bro: Papur Pawb, Yr Angor, Y Tincer a’r Ddolen.
Gall pawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif ar y wefan (Ymuno) a chreu drafft o stori neu ddigwyddiad. Dyma ein lle ni, pobol y fro, i roi sylw i bopeth sy’n bwysig i ni. Dyma pa mor hawdd yw hi i greu stori.
Tîm o wirfoddolwyr sy’n golygu’r holl gynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar BroAber360, ac sy’n rhedeg y cyfrifon cymdeithasol. Os hoffech ymuno â’r criw i gynnig help llaw, cofiwch bod croeso i chi gysylltu.
Dyma ragor o gwestiynau cyffredin am BroAber360 a gwefannau Bro360.