Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Beth am fynd ati’r penwythnos yma i gystadlu yn Eisteddfod Papur Bro Y Ddolen?
Y beirniaid eleni yw Enfys Hatcher Davies, Llanddewibrefi (llenyddiaeth) a Helen Jones, Tal-y-bont (gwaith celf a ffotograffiaeth).
Mae gyda chi dair wythnos arall cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr.
Gallwch anfon eich deunydd ar e-bost at y.ddolen@gmail.com neu os hoffech ei anfon drwy’r post at Enfys Evans, Hafan, Llanddeiniol, Llanrhystud, SY23 5DT. Cofiwch gynnwys ffugenw a’ch enw a’ch cyfeiriad chi.
Mae gwobr o £5 i enillydd pob cystadleuaeth. Caiff rhestr o’r buddugwyr a’r gwaith eu cyhoeddi yn rhifyn Mawrth o’r Ddolen.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich deunydd.