Ymdrech arbennig gan Stevie Williams ar gymal 17 y Tour de France heddiw. Gyda thua 15km i fynd roedd Stevie a Richard Carapaz yn ceisio dal Simon Yates i ennill y cymal. Ond fe dorrodd Carapaz yn rhydd a mynd yn ei flaen i ddal Yates ag ennill y cymal. Yn anffodus roedd yr ymdrech yn ormod i Stevie a llithrodd ‘nol ychydig i orffen yn 12fed. Ei safle gorau ar ddiwedd cymal yn y Tour hyd yn hyn a dros bedwar munud a hanner o flaen Pogacar!
Am ddiwrnod i Stevie Williams (Israel- Premier Tech) wrth iddo ymuno a’r dihangiad ar bedwerydd cymal y Tour de France heddiw. Arhosodd y dihangiad ar y blaen i’r peleton tan y ddringfa olaf, sef y Col du Galibier, gan roi cyfle i Stevie Williams ennill pwyntiau yng Nghystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd.
Enillodd bum pwynt wrth iddo wibio i gyrraedd pen y ddringfa i Sestrières yn gyntaf o flaen y Llydäwr Valentin Madouas. Yna ar ben yr ail ddrngfa, Col de Montgenèvre, fe wibiodd unwaith eto i ennill 5 pwynt arall o flaen y Llydäwr Warren Barguil.
Roedd y deg pwynt yn ddigon i Stevie esgyn i fod yn chweched yng nghystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd am y maillot à pois rouges ar ôl y pedwerydd cymal.
Megis dechrau mae’r Tour de France a gobeithio y cawn glywed llawer mwy am hynt a helynt y beiciwr o Gapel Dewi cyn y diweddglo yn Nice.