Mae tymor y beiciwr Stevie Williams yn mynd o nerth i nerth wedi iddo ennill un o Glasuron Gwlad Belg y Flèche Wallonne heddiw (17/4/24). Heb son am gystadlu yn erbyn tua 175 o feicwyr eraill, roedd rhaid iddo frwydro trwy law trwm a hyd yn oed cawodydd o eira i ennill y ras undydd dros 199km.
Mae’r ras yn gorffen ar ddringfa serth y Mur de Huy. Gyda 300m i fynd dyma Stevie’n torri’n rhydd o’r beicwyr eraill ac yn cadw ei fantais i ennill gyda llai nag eiliad rhyngddo ef a Kevin Vauquelin a ddaeth yn ail. Dyma’r tro cyntaf i Gymro a hefyd Prydeiniwr i ennill y ras yma. Mae enillwyr blaenorol y Clasur yma yn cynnwys y mawrion fel Tadej Pogačar (2023), Julian Alaphilippe (2018,2019 a 2021) a hyd yn oed yr anfarwol Eddy Merckx (1967).
Llongyfarchiadau i’r beiciwr o Gapel Dewi. Beth nesaf?
Os am weld cyffro diwedd y ras, gweler y fideo yma ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=5zIKKwBCwIk