Stevie Williams ar y blaen

Stevie yn ennill cymal yn y Tour of Britain

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Stevie Williams - Ennill Cymal 2 Tour of Britain 2024Israel - Premier Tech / Sprint Cycling
Stevie Williams Cymal Dau Tour-of-Britain 2024

Stevie Wiilams yn gwibio am y llinell derfyn

“Dyma’r trydydd tro yn y ras yma a dwi byth wedi llwyddo i godi fy mreichiau yn yr awyr yma. Mae’n arbennig i ennill yn y DU – ni ddim yn cael rasio yma llawer, felly mae’n golygu llawer i mi”

Stevie Williams (cyfieithiad)

Ar brynhawn Mercher (4/9/24) cafodd Stevie Williams y cyfle i godi ei freichiau i ddathlu’n fuddugoliaethus wrth groesi’r llinell ar ddiwedd yr ail gymal o’r Tour of Britain o Darlington i Redcar. Yn sgil y fuddugoliaeth mae hefyd wedi esgyn i’r safle cyntaf yn ras gyda phedwar cymal i fynd.

Agweddau nodedig o’r fuddugoliaeth oedd perfformiad ei dîm Israel – Premier Tech a’r seiclwyr o safon oedd yn brwydro yn ei erbyn. Trwy gydweithio gyda’i gyd-aelodau Joe Blackmore a Jake Stewart llwyddodd i ollwng beicwyr fel Tom Pidcock a Remco Evenepoel. Erbyn diwedd y ras roedd y frwydr rhwng Stevie, y Ffrancwr a’r pencampwr byd Julian Alaphilippe, a’r Albanwr Oscar Onley. Ond profodd cyflymdra Stevie yn ormod i’r ddau wrth iddynt wibio am y llinell derfyn.

Bellach mae Stevie chwe eiliad ar y blaen i Onley ac un ar bymtheg o flaen Alaphilippe yn y dosbarthiad cyffredinol wrth i’r seiclwyr baratoi am gymal mynyddig allweddol heddiw o Sheffield i Barnsley.

Diweddariad: Dydd Iau,

Lluniau: Israel Premier Tech / Sprint Cycling Agency / SWpix.com

05/9/24

Erbyn prynhawn Iau roedd Stevie wedi ennill ei ail gymal o’r Tour of Britain! Roedd y cymal mynyddig rhwng Sheffield a Barnsley yn un anodd i’w dîm wrth i dimau eraill ac unigolion geisio torri’n rhydd a disodli Stevie ar frig y dosbarthiad cyffredinol. Ymosododd Julian Alaphilippe yn gynnar yn y cymal, yna roedd timau Soudal-Quick-Step ac INEOS Grenadiers yn amlwg yn ceisio rhoi pwysau ar Stevie.

Unwaith eto cafwyd perfformiad meistrolgar gan ei gyd-aelodau yn Israel – Premier Tech wrth iddynt gau lawr yr ymosodiadau. Sicrhawyd fod Stevie mewn safle delfrydol wrth i’r ras gyrraedd y ddringfa fer tua’r llinell derfyn yn Barnsley. Arhosodd tan yr eiliad briodol cyn gwibio i ennill ei ail gymal o’r bron ac ymestyn ei fantais ar frig y dosbarthiad cyffredinol i 16 eiliad dros Oscar Onley. Yn ei gyfweliad ar ddiwedd y trydydd cymal, talodd Stevie deyrnged haeddiannol i’w dim am ei gwaith arbennig.

Croesi bysedd am weddill y ras sy’n gorffen yn Felixstowe ddydd Sul!

Bydd uchafbwyntiau’r cymal i’w gweld ar ITV4 heno am wyth.

Dweud eich dweud