Pnawn Sadwrn, 7 Medi, roedd Neuadd Rhydypennau’n llawn o ffrwythau a llysiau o bob math, eitemau gwaith llaw cywrain, cynnyrch bwyd cartref, ffotograffau, yn ogystal â gwaith celf disgyblion yr ysgol gynradd leol.
Yr achlysur oedd sioe flynyddol Rhydypennau – cyfle i’r gymuned ddod at ei gilydd i fwynhau arddangosfa liwgar, sgwrs a phaned.
Cyn cyflwyno’r cwpanau i’r enillwyr, talwyd teyrnged gan Richard Evans, Cadeirydd Pwyllgor y Sioe, i’r ddiweddar Joan Gethin, Ysgrifennydd y Pwyllgor am nifer o flynyddoedd, ac estynnodd ei gydymdeimlad diffuant â’r teulu yn eu profedigaeth.
Wrth gloi a chyhoeddi y bydd sioe 2025 yn cael ei chynnal bnawn Sadwrn, 6 Medi, anogodd unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r pwyllgor er sicrhau llwyddiant y sioe i’r dyfodol.