Cynhaliodd Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth eu Seremoni Wobrwyo flynyddol ddydd Mawrth, 15fed Hydref yn Medrus Mawr, Penglais. Croesawodd Elin Mair Mabbutt, Pennaeth Dysgu Gydol Oes, bawb i’r seremoni a chyflwynodd y gwesteion arbennig, y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a’r Cynghorydd Emlyn Jones, Dirprwy Faer Tref Aberystwyth.
Arweiniwyd y Seremoni gan y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yr Athro Anwen Jones. Cyflwynwyd eu tystysgrifau i dderbynwyr gan yr Is-ganghellor, yr Athro Jon Timmis, a siaradodd am ei bleser o weld y dysgwyr mor falch o’r hyn yr oeddent wedi’i gyflawni.
Derbyniodd tua hanner cant o unigolion dystysgrifau cwrs, a chyflwynwyd Tystysgrif Addysg Uwch i dri myfyriwr: Borbala Reka Kiss a Dawn Parry-Cunliffe mewn Ecoleg Maes a Meryl Buchanan mewn Celf a Dylunio.
Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i ddysgwyr presennol enwebu cyd-fyfyriwr sydd wedi ysbrydoli eraill ar y cwrs ac eleni, aeth Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn i Dr Helen Marshall. Cafodd Helen, sy’n ddarlithydd yn yr Adran Gwyddorau Bywyd yn y Brifysgol, ei henwebu gan ei chyd-fyfyrwyr ar y Cwrs Iaith Arwyddo Brydeinig. Cafodd ei chanmol am ei brwdfrydedd a’i hymdrech i greu diwylliant cynhwysol y tu allan i’r Dosbarth wythnosol.
Dyfernir Gwobr Tiwtor y Flwyddyn i diwtor Dysgu Gydol Oes sydd, ym marn myfyrwyr, yn gwneud dysgu yn brofiad cyffrous ac ysbrydoledig ac sy’n dangos ymrwymiad a brwdfrydedd dros addysgu. Eleni, y derbynnydd oedd yr Athro Mererid Hopwood. Cafodd Mererid, y bardd ac awdur adnabyddus, ei henwebu gan sawl myfyriwr o gwrs ‘Gwibdaith Drwy Lenyddiaeth Gymraeg’ a’i chanmol am ei brwdfrydedd, ei ffordd hamddenol o gyfleu gwybodaeth ac am ei harddull gyffyrddus o addysgu.
Llongyfarchiadau calonnog i bawb sydd wedi gweithio’r barhaol ar yr amrywiol gyrsiau a phob dymuniad da iddynt i’r dyfodol.
Mae Dysgu Gydol Oes yn darparu cyrsiau rhan-amser sy’n agored i bawb. Ceir mwy o wybodaeth ar y wefan: aber.ac.uk/Dysgu