Rygbi merched yn dychwelyd i Aberystwyth

Ugain mlynedd o seibiant ond mae rygbi merched yn ôl

Helen Davies
gan Helen Davies

Ar ôl seibiant o ugain mlynedd mae Clwb Rygbi Aberystwyth yn falch o gael chwarae XV merched ym Mhlascrug unwaith eto ac mae nifer dda wedi mynychu sesiynau hyfforddi cynnar, gyda’r chwaraewyr yn frwd dros y cyfle i chwarae rygbi’n lleol. Mae diffyg cyfleoedd chwaraeon i ferched Ceredigion ers tro ac mae’r clwb yn gobeithio bod yn rhan fawr o’r ateb.

Dywedodd cadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth, Emlyn Jones, “Mae’n chwa o awyr iach i weld rygbi merched yn ôl yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth ac mae unrhyw un sy’n mentro lawr i wylio’r merched neu’r merched yn chwarae yn siŵr o gael eu diddanu gan safon uchel y rygbi sydd i’w weld. Gyda thwf cyflym gêm y merched yn y blynyddoedd diwethaf a chwpan y byd yn Lloegr yn 2025, ni fu erioed amser gwell i gymryd rhan.”

Gyda chanolfan rygbi merched Bae Dolphins hefyd yn cael ei gynnal yn y clwb ym Mhlascrug, mae gan Glwb Rygbi Aberystwyth bellach lwybr clir i ferched chwarae rygbi o chwech oed hyd at y gêm hŷn. Cynhyrchodd y clwb nifer o gapiau rhyngwladol llawn yng ngêm y merched yn ystod y 1990au a’r 2000au a bydd yn gobeithio efelychu hyn eto yn y dyfodol. Ar ôl bod mor llwyddiannus yng ngêm y merched yng Nghymru yn y gorffennol, mae gan y clwb uchelgais uchel ar gyfer y garfan newydd a bydd yn anelu at chwarae yng nghynghrair cenedlaethol y tymor nesaf.

Mae hyfforddiant ar nos Fercher am 7pm yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth.

Dweud eich dweud