Yn dilyn llwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf bydd dathliadau’r Hen Galan gyda’r Fari Lwyd yn dychwelyd i Aberystwyth. Nos Wener, 17 Ionawr 2025, yw’r dyddiad i hwpo yn eich dyddiaduron. Dewch â ffrind … a dewch â sgarff i gadw’n dwym!
Bydd y miri’n dechrau ger y Bandstand ar y Promenâd am 5.30pm (ychydig yn hwyrach na’r arfer). Yno bydd Band Twnpath Aberystwyth yn cyfeilio gyda cherddoriaeth werin Gymreig. Bydd Jem Randalls (Jem Tynrhos) a Jane Blank yno, yn ceisio cadw trefn ar y Fari wyllt! Siôn Jobbins fydd yn stryffaglu a chwysu o dan y penglog ceffyl go iawn!
Bydd y Fari a’r miri yn ymddangos fel a ganlyn (amseroedd bras i’r tafarndai)
5.30pm – ger y Bandstand
6.15pm – tafarn fach y Bottle and Barrel, Cambrian Pl.
7.00pm – Tafarn yr Hen Lew Du, Stryd y Bont
7.45pm – Tafarn y Llong a’r Castell, Stryd Uchel
Bydd y Fari hefyd yn hwpo’i phen busneslyd a phryfoclyd yng nghaffis y dre ar hyd y llwybr!
Mae croeso i bawb ymuno yn y pwnco, a gaiff ei arwain tu mewn i’r tafarndai gan Jane, fydd yn chwarae rhan ‘y Betsi’.
Cân y Fari Lwyd
Parti’r Fari – yn herio
Wel, dyma ni’n dŵad,
Gyfeillion diniwad
[I ofyn cawn gennad x3] i ganu.
Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
[Beth fydd ein dymuniad x3] nos heno.
Mae Mari Lwyd lawen
a sêr a rubanau
[A chanu yw ei diben x3], mi dybiaf.
Parti’r Llety – yn ateb
Rhowch glywad, wŷr difrad,
O ble ’dych chi’n dŵad
[A beth yw’ch gofyniad x3] gaf enwi?
Parti’r Fari
O ardal Llanbadarn,
Y Waun a Threfechan
[Fe ganwn ein geiriau x3] am gwrw.
Parti’r Llety
Derbyniwn yn llawen
Ymryson yr awen
[I gynnal y gynnen x3] drwy ganu.
Parti’r Fari
Mi ganwn am wythnos
A hefyd bythefnos
[A mis os bydd achos x3] baidd i chwi.
Parti’r Llety
Mi ganwn am flwyddyn
Os cawn Dduw i’n canlyn
[Heb ofni un gelyn x3] y gwyliau.
Parti’r Fari
Gollyngwch yn rhugil,
Na fyddwch yn gynnil,
[O! Tapiwch y faril x3] i’r Fari.
Parti’r Llety
I’r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
[A’r cwrw yn ffisig x3] i’w pheswch.
Parti’r Fari
Derbyniwn yn llawen,
Y croeso mewn casgen
[Cyflawnwyd y diben x3], mi dybiaf.
[Mae’r geiriau mewn bachau sgwâr yn cael eu hailadrodd 3 gwaith]
“Ry’n ni wastad yn edrych ymlaen yn fawr at y noson! Mae’r ddwy flynedd gyntaf wedi bod yn llond gwlad o hwyl a miri, ac mae’n braf aildanio’r hen draddodiadau gwerinol Cymreig,” meddai Jem, sy’n byw ger Llanrhystud. “Bydd ganddom ni hefyd focs casglu arian, a fydd yn mynd tuag at Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin Cymru.
Ategodd Siôn, sydd hefyd yn gadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, “Mae yna rywbeth arbennig am y Fari Lwyd. Mae’n denu pobl ati fel rhyw Bibydd Brith. Mae’n atgoffa pobl fod Cymru yn hŷn na’r Chwyldro Diwydiannol, ac yn fwy diddorol na’r ystrydebau arferol. Mae’n unigryw ac mae’n hwyl. Dathlwn ein traddodiadau unigryw a’n bod yn hen hen genedl.”