Rhodd Cynnes i dîm pêl droed Sêr Aber

Gwerthu hetiau i godi arian

gan Catherine Taylor

Mae cwmni coed tân lleol wedi codi arian i dîm pêl droed pan anabledd Sêr Aber Stars trwy werthu hetiau gwlanog.

Syniad Owen Egan, perchennog Happy Days Firewood, Capel Bangor oedd gwerthu’r hetiau i godi arian tuag at eu costau.

Mae’r tîm pêl droed sy’n rhan o deulu Clwb Pêl Droed Aberystwyth, yn teithio’n fisol ar draws Gorllewin a De Cymru i gymryd rhan mewn gemau gyda thimau pêl droed pan anabledd eraill ac yn llogi bws mini er mwyn gwneud.

Mae pawb o’r garfan yn ddiolchgar iawn i Owen ac Elaine Egan am eu rhodd hael- oedd yn cynnwys het gynnes yr un i’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr! Diolch hefyd, wrth gwrs, i bawb brynodd het.

Cyflwynodd, Lucy – merch Owen ac Elaine y siec a’r hetiau ar ôl sesiwn hyfforddi nos Wener.

Mae sesiynau hyfforddi Sêr Aber Stars yn digwydd ar nos Wener 17:30-18:30 ar gae pêl droed Coedlan y Parc. Croeso i chwaraewyr newydd a hefyd y sawl sydd â diddordeb cynorthwyo i hyfforddi’r tîm.