Mae Cymdeithas Aredig a Phlygu Gogledd Ceredigion wedi bod yn cynnal cystadlaethau lleol ers degawdau bellach, a phob nawr ac yn y man, maent yn cydweithio gyda’r gymdeithas arall yn y Sir i gynnal Cystadleuaeth, Aredig Cymru. Ym mis Medi y llynedd cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Llanon a chroesawyd cystadleuwyr o Gymru gyfan a Phrydain. Efallai gwnaethoch chi sylwi ar y digwyddiad wrth basio ar y brif ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.
Yn dilyn hyn, cynhaliwyd y gystadleuaeth sirol ym Mhenycaerau, Rhosygarth ar y 4ydd o Fai ar ôl ei gohirio deirgwaith oherwydd y tywydd. Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn wedi ei drefnu gan Gymdeithas Aredig a Phlygu Gogledd Ceredigion.
Criw bach yw’r pwyllgor ond maent i gyd yn gytûn bod cefnogi sefydliadau a gwasanaethau lleol yn hanfodol, ac eleni rydym yn hynod o ffodus eu bod wedi dewis ein helusen ni, HAHAV Ceredigion, fel un o’r ddwy elusen roeddent am eu cefnogi. Rydym yn ddiolchgar iawn am bob ceiniog a dderbyniwn gan nad ydym yn derbyn unrhyw arian craidd cyson ac yn ddibynnol ar grantiau, elw o ddigwyddiadau fel hyn a rhoddion gan unigolion a chymdeithasau. Diolch yn fawr iawn am eich haelioni.
Cyflwynwyd siec o £1,000 tu allan i Ganolfan Byw’n Dda HAHAV ym Mhlas Antaron ar noson braf ar ddechrau mis Mehefin.