Rali Ceredigion 2024

Cant a hanner o geir yn cystadlu o ddydd Gwener tan ddydd Sul nesaf

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Rali-Ceredigion-2023-Ennillydd

Rali Ceredigion 2023

Stondin-Rali-Ceredigion

Stondin Rali Ceredigion 2024

Bydd gyrwyr rali o Ewrop a thu hwnt yn gwibio ar hyd ffyrdd Ceredigion y penwythnos nesaf yn Rali Ceredigion JD Machinery 2024. Mae gwaith caled clybiau moduro Aberystwyth, Llambed, Dyffryn Teifi a’r Drenewydd i drefni Rali Bae Ceredigion am y tro cyntaf yn 2019 wedi talu ar ei ganfed. Eleni mae’r rali wedi datblygu i fod yn rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop (ERC) gan ddenu gyrwyr blaenllaw fel Hayden Paddon o Seland Newydd a Mathieu Franceschi o Ffrainc.

Ond mae digon o yrwyr lleol yn gobeithio ennill pwyntiau pwysig ar gyfer y gwahanol gategorïau / pencampwriaethau sy’n rhan o’r Rali eleni gan gynnwys Pencampwriaeth Rali Prydain. Bydd enillydd Rali Ceredigion llynedd, Osian Price o Fachynlleth, yn gobeithio bydd ei wybodaeth leol yn gymorth iddo amddiffyn ei goron. Bydd Meirion Evans o Lambed a James Williams o Gastell Newydd Emlyn yn gobeithio bod ymysg y ceffylau blaen hefyd. Un arall fydd yn gobeithio serennu yw Ioan Lloyd o Landysul ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop ar gyfer gyrwyr iau. Ymysg llu o rai eraill bydd Huw James ac Ieuan Evans yn gobeithio gwneud eu marc yn Nosbarth M5.

Am fwy o fanylion a chyfle i brynu rhaglen (£5) a nwyddau’r Rali galwch heibio’r stondin ar y Prom yn Aberystwyth, neu ewch i’r wefan https://www.raliceredigion.co.uk/ .

Cefnogwch a mwynhewch y rasio. Bydd digon o gyfle i wylio’r cymalau yn Aberystwyth, Brechfa, Nant y Moch, Bethania a Hafod. Gellir cael manylion pellach a phrynu tocynnau ar y wefan: https://www.raliceredigion.co.uk/spectators/ .

Gellir gweld seremoni dechrau’r rali (pnawn Gwener) a chyflwyno’r gwobrau (pnawn Sul) ger y Bandstand yn Aberystwyth am ddim. Bydd hefyd cyfle i wylio’r ceir yn cael eu paratoi/trwsio yn ardal Parc y Llyn a Rhodfa Padarn yn ystod y penwythnos.

Cofiwch fod nifer o ffyrdd ar gau a chyfyngiadau parcio yn ystod y Rali. Am fanylion llawn a mapiau gweler gwefan Cyngor Ceredigion: https://tinyurl.com/5944fu5n .

Diolch ymlaen llaw i’r holl gynghorau, sefydliadau, busnesau a gwirfoddolwyr lleol sydd wedi cefnogi’r digwyddiad a dymuniadau gorau i’r cystadleuwyr.

Dweud eich dweud