Penwythnos Prysur y Maer yn Parhau

Gorymdaith a gwasanaeth i nodi penodiad Maldwyn Pryse fel Maer Aberystwyth

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Gorymdaith Maer Aberystwyth 2024
Gorymdaith Maer Aberystwyth 2024
Gorymdaith Maer Aberystwyth 2024
Gwasanaeth Maer Aberystwyth 2024
Parch. Eifion Roberts, Caplan Maer Aberystwyth 2024
Gwasanaeth Maer Aberystwyth 2024, Rhian Dafydd Elusen HAHAV
Maer a Dirprwy Faer Aberystwyth 2024

Maer Aberytwyth, Maldwyn Pryse a’r Dirprwy Faer, Emlyn Jones

Yn dilyn Seremoni Sefydlu’r Maer ar nos Wener roedd penwythnos prysur Maldwyn yn parhau ar y dydd Sul. I gyfeiliant Seindorf Arian Tref Aberystwyth gorymdeithiodd torf o Lyfrgell y Dref i Gapel Seion, Stryd y Popty ar gyfer Gwasanaeth y Maer dan ofal Caplan y Maer, Y Parch. Eifion Roberts.

Yn ystod y gwasanaeth cafwyd cyflwyniad a chasgliad ar gyfer y ddwy elusen leol a gefnogir fel rhan o flwyddyn Maldwyn fel Maer Aberystwyth, sef HAHAV a Bad Achub Aberystwyth.

Dyma ychydig o luniau i roi blas o’r diwrnod.