![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/6/2024/05/937fd5cb-3ada-43b1-a675-576642ebc990-640x396.jpg?0)
Ers 2020, mae casgliad Penrhyn-coch tuag at Wythnos Cymorth Cristnogol wedi symud i’r ŵe – nid oes casgliad o ddrws i ddrws gennym bellach.
Mae ymgyrch codi arian Cymorth Cristnogol eleni yn arddangos eu gwaith ym Murundi. Clywsom am y gwaith yma yn yr oedfa Cymorth Cristnogol a gynhaliwyd yn Horeb ar 12 Mai. Cafwyd gwasanaeth Cymorth Cristnogol yn Eglwys Sant Ioan hefyd. Os hoffech weld ffilm am ymgyrch eleni dilynwch y ddolen hon: https://christianaid.resourcespace.com/pages/view.php?ref=10784&k=39d7169be3.
Gallwch gyfrannu at gasgliad Penrhyn-coch drwy ein tudalen we ar JustGiving https://www.justgiving.com/page/pwyllgor-penrhyn-coch-or457133-2024
Mae’r dudalen yn rhoi opsiynau i’r rhai sy’n well ganddynt roi oddi-ar-lein! Bydd y casgliad ar agor hyd at 30 Mehefin.
Mae croeso i gyfranwyr o’r tu allan i Benrhyn-coch gyfrannu hefyd.