Penparcau yn llawn lliw

Gerddi lliwgar Penparcau ar ei gorau

gan Cyngor Tref Aberystwyth

Diolch i Alun Williams am ddarparu lluniau o Ddiwrnod Agored dydd Sul, 5ed o Orffennaf 2024 yn rhandiroedd Penparcau.

Mae trigolion o bob rhan o Aberystwyth yn denantiaid rhandiroedd sydd ger Caeffynnon, Min y Ddol a’r Bumed Goedlan (Fifth Avenue). Gyda 37 o erddi, mae digon o amrywiaeth, ac yn aml, does dim mynediad i’r cyhoedd. Mae’r Diwrnod Agored wedyn yn gyfle i werthfawrogi’r gwaith sydd yn mynd ar y gerddi.

Mae’r rhandiroedd yn cael eu rhedeg gan Gyngor Tref Aberystwyth mewn partneriaeth â deiliaid rhandiroedd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhentu, cysylltwch â’r Cyngor Tref ar 01970 624761.

Trefnwyd y digwyddiad gan NGS Ceredigion sydd a’i digwyddiad nesaf yn Llanafan ar y 13ain o Orffennaf.