Papur Sain Ceredigion yn dathlu wythnos gwirfoddolwyr

Gwirfoddolwyr yn gwasanaethu’r dall a’r rhannol ddall yng Ngheredigion ers 1970

Angharad Morgan
gan Angharad Morgan
PSCTN-02-29-May-2024

Rhai o wirfoddolwyr y Papur Sain yn derbyn tystysgrifau diolch gan y Cadeirydd, Syd Smith.

Eleni, mae Wythnos Gwirfoddolwyr (3–9 Mehefin) yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed. Amser da felly i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr i’n cymuned leol, ac yn fwy penodol y rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth wneud gwahaniaeth i fywydau beunyddiol pobl.

Clywais am Bapur Sain Ceredigion, papur newydd Ceredigion i’r dall a’r rhannol ddall, ym mis Medi 2023. Wedi’i sefydlu yn 1970, y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, mae’r Papur Sain yn dal i gael ei arwain yn llwyr gan wirfoddolwyr

Naw mis yn ôl cymerodd Syd Smith drosodd fel Cadeirydd, gan ddilyn pwyllgor oedd wedi arwain y Papur Sain am flynyddoedd lawer. Sicrhaodd Eurwen Booth (Cyn-gadeirydd), Margaret Hughes (Cyn-ysgrifennydd) a John Roberts (Cyn-drysorydd) y gallwn symud ymlaen gyda rhywfaint o sicrwydd i’n gwasanaeth.

Roedd Syd wrthi’n chwilio am fwy o wirfoddolwyr i ymuno â’r tîm presennol wrth iddynt geisio ailddechrau’r gwasanaeth rhad ac am ddim yn dilyn distawrwydd a orfodwyd gan COVID. Mae wedi gweithio’n ddiflino dros y naw mis diwethaf, gan gynnwys cydlynu’r tîm gwirfoddolwyr a chyflwyno’r dyfeisiau gwrando i danysgrifwyr newydd. Mae hefyd wedi ymgymryd â rôl copïwr, recordydd a phaciwr ar wahanol adegau. Mae Syd, ochr yn ochr ag Emyr Hughes (Ysgrifennydd) a Lorely Lansley (Trysorydd), wedi sicrhau bod y Papur Sain wedi gallu ailsefydlu ei hun fel gwasanaeth pwysig ar draws Ceredigion.

Ymunais â’r Papur Sain fel darllenydd, ac rwy’n rhan o dîm sy’n gwirfoddoli tua awr a hanner o’u hamser bob mis i ddarllen erthyglau newyddion lleol a’u gwneud yn hygyrch i’n gwrandawyr. Bob wythnos, rydym yn darparu uchafbwyntiau newyddion llafar dwyieithog i danysgrifwyr o’r gymuned ddall a rhannol ddall o amrywiaeth o ffynonellau newyddion lleol.

Ers 2023, mae HAHAV wedi ein croesawu ac wedi darparu cartref dros dro ar gyfer y gwasanaeth. Bydd ein cartref newydd, parhaol yn CK Stores yn y Waun-fawr yn barod erbyn yr haf – cam na fyddai wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a haelioni cronfa gymunedol CK ei hun.

Wrth i ni edrych i’n dyfodol, ar hyn o bryd mae gan Bapur Sain Ceredigion dîm o 35 o wirfoddolwyr i ddarparu’r gwasanaeth amhrisiadwy hwn, ond mae croeso bob amser i aelodau newydd i’r tîm. Nid oes angen unrhyw sgiliau arbenigol ar gyfer y rhan fwyaf o’r rolau, dim ond brwdfrydedd ac angerdd. Does dim un o’r rolau yn drwm o ran amser, ac maent yn caniatáu inni gefnogi ein cymuned o amgylch ein hymrwymiadau teuluol a gwaith amrywiol.

Os hoffech ddysgu mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli gyda Phapur Sain Ceredigion, cysylltwch â: Syd Smith, drwy e-bost: syd@walkers.tv  neu ffoniwch: 07773 719723 / 01970 625122.

Os ydych yn adnabod unrhyw un a hoffai danysgrifio fel gwrandäwr, cysylltwch ag Angharad Morgan: drwy e-bost: angharad.morgan@gmail.com , neu ffoniwch: 07792 404428.