Mwy o lwyddiant i Glwb Rygbi Aberystwyth

Buddugoliaeth agos gartref yn erbyn Cydweli

Helen Davies
gan Helen Davies

Llwyddodd Clwb Rygbi Aberystwyth i guro Clwb Rygbi Cydweli, 28–27, yn eu gêm gartref gyntaf y tymor hwn yng Nghynghrair Cenedlaethol 1 – Gorllewin. Enillodd Aber gêm gyffrous, gyda’r tîm cartref yn brwydro i drosi mantais diriogaethol yn bwyntiau.

Ar ddiwrnod braf o hydref cynnar gydag amodau da, er gwaetha’r gwynt, roedd Aber yn rheoli rhannau o’r gêm gyda sgrym gref (Cydweli yn ildio nifer o giciau o’r smotyn) a gwaith cadarn yn y leiniau, ond ni lwyddodd i dynnu’n glir oddi wrth ymwelwyr.

O’r gic gyntaf, roedd Aber yn ennill ryciau ac yn gwthio’r chwarae at linell gais yr ymwelwyr. Yn dilyn cic gosb o’r sgrym gan Aber a symudiad llyfn y cefnwyr, arweiniodd rhyng-gipiad gan Gydweli at gais cosb a cherdyn melyn. Ond ymatebodd Cydweli’n gyflym i’r ailddechrau a throsodd y maswr Declan Smith gic gosb yn dri phwynt.

Roedd Aber yn ôl yn ddwfn yn nhiriogaeth yr ymwelwyr yn fuan, ond daliwyd y bêl i fyny gan Gydweli uwchben eu llinell gais. Roedd sgrym Aber yn dangos ei gryfder a throswyd cic gosb yn dri phwynt gan Dylan Benjamin. Ond yna torrodd Shaun Pearce, asgellwr Cydweli, drwy fylchau yn llinell amddiffynnol Aber i sgorio cais, a gafodd ei drosi. Yna enillodd yr ymwelwyr y llinell ar linell 10 metr Aber a chaniataodd taclo gwael i Rhodri Taylor groesi am gais, a gafodd ei drosi.

Enillwyd tir drwy gicio da Dylan Benjamin, gan wthio’r chwarae yn agos at linell gais Cydweli. O ganlyniad i waith llinell cadarn a chic gosb o sgrym 5 metr allan, dyfarnwyd cais cosb i Aber. Pawb yn gyfartal ar hanner amser, felly: 17–17.

Sgrym Aber oedd fwyaf llwyddiannus yn yr ail hanner, ond cafwyd amddiffyn cadarn gan yr ymwelwyr. Yn dilyn gwaith gan Dylan Benjamin a Jac Jones, llwyddodd y maswr Tommy Sandford i sgorio cais, ond ni lwyddwyd i’w drosi. Cafodd y ddau dîm gic cosb, a sgorio tri phwynt yr un i’w chadw’n gêm dynn. Wedyn, aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda chais arall (wedi’i drosi) gan y canolwr Pearce.

Gyda chic gosb a ddyfarnwyd yn dilyn sgrym, fe lwyddodd Dylan Benjamin i sicrhau tri phwynt olaf y gêm – buddugoliaeth i Aber o un pwynt.

Dyma berfformiad da iawn gan Aber, oedd yn haeddu sgôr well. Ond ni chafodd goruchafiaeth y sgrym a’r llinell eu trosi’n bwyntiau, ac fe wnaeth gwendidau yn yr amddiffyn ganiatáu i’r ymwelwyr ddod yn ôl i mewn i’r gêm.