Ger y Lli ’nôl ar y llwyfan!

Canu, diddanu a mwynhau!

gan Carys Ann
IMG_7821-1

Perfformio yn eglwys Sant Eurgain a Sant Pedr, Llaneurgain

IMG_7568

Côr Cymru – categori lleisiau cymysg.

‘Nôl yn 2004, sefydlwyd côr ieuenctid yn Aberystwyth gan Gregory Vearey Roberts. Ers hynny mae Côr Ger y Lli wedi bod yn cystadlu ac yn diddanu ar lwyfannau bach a mawr ar draws Cymru.

Gyda dathliadau 20 mlynedd yn agosáu a’r côr bellach wedi hen adael y categori ieuenctid, roedd hi’n hen bryd dod ’nôl at ein gilydd i ganu eto.

O dan yr enw Cantorion Ger y Lli, llwyddodd y côr i gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Côr Cymru eleni. Mae’r côr yn gyfuniad o gyn-aelodau ac ambell wyneb newydd, gyda rhai’n teithio cryn dipyn o bellter ar gyfer yr ymarferion.

Ddechrau’r flwyddyn daeth gwahoddiad i gymryd rhan mewn cyngerdd arbennig gyda Band Llaneurgain, ac roedd y daith hir lan i ardal yr Wyddgrug ddiwedd mis Ebrill heb os yn werth pob ymdrech! Fel deiliaid y teitl Pencampwyr Adran 1 Cymru, 2024, roedd hi’n wefr gwrando ar berfformiadau’r band. Ond roedd hyd yn oed yn fwy o fraint perfformio ar y cyd â’r band gyda threfniant arbennig o’r emyn ‘Gwahoddiad’. Dyma noson a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

Yn ogystal â’r perfformio, mae’r côr wir wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddod yn ôl at ei gilydd fel criw o ffrindiau, gan fwynhau’r cymdeithasu ochr yn ochr â’r canu. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at y prosiect nesaf. Mae cynlluniau ar y gweill yn barod a’r trefniadau wedi dechrau, felly cadwch lygad allan i weld beth fydd yn dod nesaf gan Gantorion Ger y Lli!