Nos Iau, 4 Ebrill, roedd bwyty Ciao Ciao, Aberystwyth, dan ei sang ar gyfer noson arbennig yn y byd llyfrau. Yr achlysur oedd lansio dwy nofel newydd gan ddau awdur lleol, sef Amser Drwg fel Heddiw, nofel gyntaf Iwan Meical Jones o’r Dolau, a Gobaith Mawr y Ganrif gan Robat Gruffudd, sydd eisoes wedi cyhoeddi sawl nofel.
Yn Llanrwst yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd y mae nofel Iwan Meical Jones wedi’i lleoli, ac mae’r rhyfel hwnnw’n taflu ei gysgod dros fywydau pawb yn y gymdeithas glòs oedd yn y dref honno. Fel nofel i’w darllen ar y traeth y disgrifiodd Robat Gruffudd ei nofel ddiweddaraf, sy’n agor mewn seremoni BAFTA rwysgfawr ym Mae Caerdydd.
Holwyd y ddau awdur yn dreiddgar gan nofelydd lleol llwyddiannus arall, sef Geraint Evans, Tal-y-bont, a chafwyd atebion difyr a dadlennol ganddynt.
Band Bach Geraint Lovgreen oedd yn gyfrifol am adloniant cerddorol y noson, a chafwyd gwledd o ganeuon ganddynt – o’r dwys i’r llon.
Cyhoeddir y ddwy nofel gan Wasg y Lolfa, a diolch yn fawr iddynt am drefnu noson mor llwyddiannus i ddathlu camp awduron lleol.