Hwyl yr ŵyl gyda Chantorion Ger y Lli a chyfeillion

Cyngerdd llawn doniau cerddorol talentog – yr anrheg Nadolig perffaith!

gan Carys Ann

Paratowch am noson i’w chofio wrth i Gantorion Ger y Lli gyflwyno’u cyngerdd Nadolig yn Eglwys Llanbadarn ar nos Sul, Rhagfyr y 1af. Mae’r côr talentog yma, a ymddangosodd yn rowndiau terfynol cystadleuaeth Côr Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, wedi dod â chriw arbennig at ei gilydd er mwyn rhannu hwyl yr ŵyl eleni.

Yn ymuno â Chantorion Ger y Lli fydd Band Pres Llaneurgain, Pencampwyr Adran 1 Prydain Fawr; Côr Ysgol Gynradd Llanilar, y delynores Heledd Davies a Chôr Meibion Aberystwyth.

Mae Cyfarwyddwr Cerdd Cantorion Ger y Lli, Gregory Vearey Roberts, yn edrych ymlaen yn fawr at y noson arbennig hon:

“Mae Cantorion Ger y Lli yn falch i gynnal y noson hon yn Eglwys hynafol Llanbadarn Fawr unwaith eto, a hynny ugain mlynedd ers ein cyngerdd Nadolig cyntaf yno. Rydyn ni’n hynod falch i groesawu Band Pres Llaneurgain aton ni – maen nhw’n fand anhygoel! Rydyn ni hefyd yn hapus iawn i rannu’r llwyfan gyda disgyblion Ysgol Gynradd Llanilar, Côr Meibion Aberystwyth a’r delynores leol, Heledd Davies. Mae’n argoeli i fod yn noson ardderchog!”

Mae tocynnau ar gael o Siop Inc neu drwy e-bostio gerylli@gmail.com

Peidiwch â cholli’r cyfle yma i ddechrau tymor y Nadolig mewn steil gyda cherddoriaeth, hwyl a chymuned.

Dweud eich dweud