Hewl ar y blaen

Hayden Paddon yn ennill Rali Ceredigion 2024

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Hayden Paddon

Podiwm Rali Ceredigion 2024

Ioan-Lloyd-Cwpan-Stellantis

Ioan Lloyd a Sion Williams yn dathlu ennill Cwpan Stellantis

Dylan-Davies

Dylan Davies a M. Gilbey yn dathlu

Huw-James

Huw James a Lewis Sim yn dathlu

Er i ychydig o law darfu ar ddiwrnod olaf Rali Ceredigion, doedd dim yn mynd i atal Hayden Paddon o Seland Newydd rhag ennill y Rali. Cwblhaodd y cymalau yn ddigon didrafferth yn wahanol i ddrama rhai o’r gyrwyr. Rhoddodd berfformiad meistrolgar i ennill uchafswm y pwyntiau oedd ar gael iddo gan gynnwys yn y cymal cyffro. Mae’n ffefryn clir i amddiffyn ei goron fel Pencampwr Rali Ewrop 2024 yr ERC gyda dim ond un rali ar ôl.

Roedd y glaw yn ddigon i wneud dewis y teiars yn anoddach gyda rhai mannau’n fwy llithrig na’i gilydd bore Sul. Roedd hi’n ddiwedd y Rali i ddau o’r ceffylau blaen ar gymal Bethania. Cafodd Chris Ingram a Keith Cronin ddamweiniau cas ond roedd pawb yn iawn. Yn dilyn y ddrama aeth Andrea Mabellini o’r Eidal ymlaen i orffen yn ail a Mathieu Franceschi o Ffrainc yn drydydd.

Cafodd y ddau Gymro ambell broblem hefyd ond aeth Osian Pryce o Fachynlleth ymlaen i orffen yn seithfed a Meirion Evans o Harford yn nawfed. Er rwy’n siŵr eu bod wedi gobeithio am well ond rhaid cofio fod y  gystadleuaeth yn llawer anoddach eleni gan fod y Rali yn rhan o Bencampwriaeth Rali Ewrop.

Ond roedd yn braf gweld rhai gyrwyr o’r canolbarth ar y podiwm yn ennill rhai o’r gwobrau. Enillodd Ioan Lloyd o Landysul Gwpan Stellantis a siec am £3,000 ac fe ddaeth yn ail yn un o’r categorïau’r gyrwyr iau.

Derbyniodd Dylan Davies o Giliau Aeron wobr am ddod yn drydydd yn y categori Rali Agored. Enillydd poblogaidd arall oedd Huw James o Dregaron yn y categori car gyriant dwy olwyn. Roedd ei wên lydan yn dweud y cyfan – ond braidd yn wastraffus gyda’r Champagne!

Diweddglo teilwng i rali heulog (ar y cyfan) ac roedd yn braf gweld y gyrwyr yn diolch i’r trefnwyr a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith diflino. Llongyfarchiadau.

Dweud eich dweud