“Hanner canfed Mynediad – O adel hwyl hyd y wlad”

Neges gan Emyr Wyn i drigolion Gogledd Ceredigion

thumbnail_IMG_1174-copy
thumbnail_Mynediad-Aber

Mis Mawrth 1974 oedd hi. Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd a chriw o fechgyn o Goleg Aberystwyth yn cystadlu ar y caneuon gwerin a “phop” yn Neuadd y Cory ar waelod Stryd y Frenhines yng nghanol y ddinas.

Mae Neuadd y Cory (neuadd, gyda llaw, oedd yn cael ei rhedeg gan y Cardiff Temperance Society ac felly yn lle di-alcohol) wedi hen ddiflannu. Ond hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae Mynediad Am Ddim yma o hyd.

Eric Dafydd o’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog a’r baledwr, y diweddar Elfed Lewys (y ddau gyda’u gwreiddiau yn ddwfn yng Nghwm Gwendraeth) oedd y beirniaid ddwedodd fod “rwbeth ‘da chi bois…wedyn cariwch mla’n”! Dal ati wnaeth y bois, gan berfformio yn ddi-dor fyth ers hynny (arwahan i’r cyfnod Clo, pan do’dd neb yn canu, ar wahân i rheini odd yn y bath!)

Bu tipyn o newid ymhlith aelodau Mynediad am Ddim ar hyd y blynyddoedd, ond mae’r saith aelod presennol gyda’i gilydd ers y ganrif ddwetha, a thri, Robin, Graham ac Emyr Wyn (y Llais Swynol o’r Tymbl) wedi bod yn diddanu ers y cychwyn cyntaf.

Yr aelodau bellach ydi Robin, Emyr, Graham, Peter Jones, Rhys Dyrfal, Geraint Davies a Geraint Cynan.

Do, fe fu mynd a dod wrth i’r grŵp ffarwelio gyda Dewi Jones, Iwan Roberts, Emyr Huws Jones, Delwyn Sion a’r diweddar Alun Sbardun Huws a Mei Jones.

Lot o ddŵr dan bont ‘te, ond fel Fflat Huw Puw, mae’r cwch yn dal i hwylio!

Beth yw’r gyfrinach felly? Wel, does ‘na ddim ateb syml. Ond yn sicr, mae’r cyfeillgarwch sy’ rhwng y bois yn cyfrif llawer. Bu gair croes rhyngddynt erioed? Dim llawer! Ambell ddadl am gynnwys a threfniant caneuon falle – ond dim byd nad anghofiwyd o fewn ’chydig funudau. Lot fawr o dynnu coes a lot mwy o…beth yw’r gair Cymraeg am “banter” gwedwch?

Ac wrth gwrs mae’r caneuon ma’ nhw’n eu canu yn cyfrif llawer. Trefniannau o ganeuon gwerin sy’n mynd nôl i’r cyfnod cynnar, ac wedyn mae caneuon yr anhygoel gyfansoddwr, Emyr Huws Jones.

Heb os, Ems yw un o’r cyfansoddwyr mwya’ toreithiog, dawnus a gwych yr hanner can mlynedd diwetha’. Mae e wedi ysgrifennu ar gyfer llawer o artistiaid ers iddo ddechrau gyda’r Tebot Piws nôl yn y 60au. Ond Mynediad am Ddim sy’ wedi cael y fraint o ganu toreth o’i ganeuon ers y cychwyn cyntaf. Caneuon fydd i’w clywed a’u mwynhau eto yn ystod Mynediad50.

Ers 1974 bu’r bois yn trafili ar hyd a lled Cymru, yn teithio Llydaw, Iwerddon a’r Alban gan ymddangos ar gannoedd o lwyfannau a dwsinau o raglenni radio a theledu led led y gwledydd Celtaidd.

I ddathlu hanner can mlynedd o ddiddanu, mae’r grŵp wedi trefnu taith o ugain Cyngerdd …MYNEDIAD50…

Taith a ddechreuodd yn Y Barri, ddechrau eleni, a fydd yn cwpla, lle dechreuodd y cwbl, sef Aberystwyth. Hynny ar Chwefror 1af 2025. 

Mae’r siwrnai hon yn  mynd â nhw i bob cwr o Gymru…O Aberdaron i Bontypridd, o Grymych i Wrecsam ac o Drawsfynydd i Fangor…heb anghofio Theatr Felinfach, sydd, fel sawl lle arall yn “sell out”.

Eisoes ma’r “gigs” wedi cael derbyniad gwresog ar y naw. Lot o hwyl a chyd ganu yn Y Felinheli, Tregaron, Caerdydd, Caernarfon a’r Bala.

Bydde’ hyn i gyd ddim yn bosib heb y trefnwyr lleol wrth gwrs, ac mae diolch y grŵp iddynt i gyd yn fawr iawn.

Dewch i gyd ddathlu MYNEDIAD50 yng Nghanolfan y Celfyddydau, yn y Neuadd Fawr ar y 1af o Chwefror 2025. Mae’r tocynnau ar werth nawr ar wefan y Ganolfan ac yn mynd yn gloi!

Ac os am fwy o fanylion am Mynediad Am Ddim, yna ewch i Dudalen Ffêsbwc y grŵp neu i’r wefan mynediadamddim.com

Ac mae holl ganeuon y grŵp bellach ar Spotify…a, na nid cymeriad o Siwperted yw hwnnw!

Dweud eich dweud