Gwledd o oleuni yn cyrraedd Bow Street!

Noson goleuo’r goeden

gan Anwen Pierce

Roedd hi’n noson arbennig yn Bow Street nos Fawrth, 3 Rhagfyr, wrth i’r goeden Nadolig hyfryd ger capel y Garn gael ei goleuo. Bu criw o blant Ysgol Rhydypennau yn canu carolau, a’r Cynghorydd Gareth Lewis gafodd y fraint o droi’r swits. Wedi’r goleuo, daeth tyrfa fawr ynghyd yn Neuadd Rhydypennau am win cynnes, mins-peis a sgwrs. Diolch i bawb fu ynghlwm â’r trefnu. Dyma Cadi a Steffan a Gareth yn mwynhau hwyl yr ŵyl. Cofiwch gadw llygad am y goeden hardd wrth basio drwy’r pentref – mae’n werth ei gweld!

Dweud eich dweud