Gwireddu breuddwyd

Gwyliwch y cyfweliad gyda Stevie Williams ar ddiwedd y Tour de France.

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Israel - Premier Tech

https://fb.watch/twEZ0mP88w/ neu https://x.com/S4Cchwaraeon/status/1815053119035769067 (cliciwch i wylio’r cyfweliad)

Llongyfarchiadau i Stevie Williams ar gwblhau ras beicio fwya’r byd y Tour de France. Dyma berfformiad arbennig gan Stevie yn ei Tour cyntaf. Er ei fod yn siomedig nad oedd wedi ennill cymal, roedd dau ddiwrnod yn sefyll yn y cof ar ôl tair wythnos galed o rasio.

Enillodd ddeg pwynt wrth iddo wibio i gyrraedd pen dwy ddringfa yn gyntaf yn ystod y pedwerydd cymal, sef i Sestrières a’r Col de Montgenèvre. Ond efallai yn fwy nodedig, brwydro gyda Richard Carapaz a Simon Yates ar y blaen ar gymal 17 gyda dim ond 15km i fynd cyn diwedd y cymal. Aeth Richard Carapaz yn ei flaen i ennill crys Brenin y Mynyddoedd yn y ras.

Braf oedd gweld Gruff Lewis o Dal-y-bont yn rhan o’r tîm sylwebu ar S4C unwaith eto.