Heddiw (dydd Mawrth, 4 Mehefin) mae elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion, HAHAV, yn lansio ymgyrch codi arian mewn ymgais i ddiogelu a datblygu ei gwasanaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Gyda chanolfan newydd ar gyrion Aberystwyth a’r galw am ei gwasanaethau yn cynyddu ar draws y sir, y nod yw codi £200,000 yn y 18 mis nesaf.
Er mwyn rhoi cychwyn cryf i’r ymgyrch mae cadeirydd newydd yr elusen, Gwerfyl Pierce Jones, yn anelu i gerdded 100 milltir mewn mis ac yn gwahodd pobl i’w noddi. Mae hi hefyd yn galw ar bobl a sefydliadau i ymuno â’r ymgyrch a threfnu gweithgareddau a digwyddiadau codi arian dros y misoedd nesaf.
“Mae’r ffordd y mae HAHAV wedi datblygu ers ei sefydlu bron i ddegawd yn ôl yn dyst i ymroddiad gwirfoddolwyr di-ri, sydd wedi darparu gwasanaeth hollbwysig i bobl ledled Ceredigion.
“Rydyn ni nawr yn wynebu sefyllfa lle mae angen i ni fuddsoddi yn ein seilwaith er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaethau hosbis yn y cartref y mae mawr eu hangen. Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at ddatblygu Plas Antaron fel Canolfan Byw’n Dda ac ehangu ein gwasanaethau gwirfoddol ar draws Ceredigion.
“Mae’n gyfnod heriol i ofyn i bobl gyfrannu’n ariannol ond rwy’n gobeithio y byddant yn cydnabod y gwaith hollbwysig a wneir gan HAHAV ac yn cefnogi’r achos teilwng hwn.”
Mae Gwerfyl ei hun yn arwain trwy esiampl trwy anelu at gerdded 100 milltir mewn mis a gofyn am gefnogaeth nawdd ar hyd y daith.
Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr, cyfle i ddathlu’r cyfraniad hynod werthfawr y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas. Mae HAHAV wedi bod yn sefydliad a arweinir gan wirfoddolwyr ers y cychwyn ac maent yn hanfodol i’w waith.
Un o’r gwirfoddolwyr yw Gwen Aaron sy’n credu bod manteision enfawr i wirfoddoli,
“Dechreuais wirfoddoli gyda HAHAV pan ddychwelais i fyw yn Aberystwyth a darganfod y gwaith gwych y mae HAHAV yn ei gyflawni. Rwy’n gweithio gyda’r Rhaglen Galar i gynghori’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac sy’n ei chael hi’n anodd byw gyda’u galar.
“Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb lle gall pobl siarad yn rhydd gan wybod ei fod yn gwbl gyfrinachol. Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau ychydig ar eu baich ac y byddant ymhen amser yn dysgu byw’n haws gyda’u tristwch. Fel gwirfoddolwyr allwn ni ddim honni ein bod yn mwynhau’r gwaith, ond os aiff yn dda mae’n sicr yn rhoi boddhad mawr i ni.”
Os hoffech gyfrannu neu drefnu digwyddiad codi arian neu wirfoddoli ewch i hahav.org.uk, ffoniwch 01970 611550, neu e-bostiwch: admin@hahav.org.uk