Galw am gynllun arweinwyr i atal yr adain dde eithafol

Melin Drafod yn poeni am gynnydd yr adain dde

Grŵp ymgyrchu Melin Drafod wedi ysgrifennu at arweinwyr pleidiau yng Nghymru gan alw arnynt ffurfio cynllun i atal twf yr adain dde eithafol. Ysgrifennwyd at Eluned Morgan AS, Llafur; Rhun ap Iorwerth AS, Plaid Cymru; Anthony Slaughter, Plaid Werdd; Jane Dodds AS, Democratiaid Rhyddfrydol; ac Andrew RT Davies AS (Ceidwadwyr).

Yn yr ohebiaeth oddi wrth Melin Drafod, gofynnir cyfres o gwestiynau am gynlluniau’r gwleidyddion i gryfhau democratiaeth a thaclo anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol.

Rhwng 2016 a 2021, bu cynrychiolwyr nifer o bleidiau adain dde eithafol yn y Senedd, gan gynnwys UKIP a Phlaid Brexit.   Mae gwleidyddion a phleidiau adain dde eithafol wedi ennill etholiadau yn yr Eidal, Awstria, yr UDA, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill yn ddiweddar.    Mae arolygon barn yn awgrymu gallai Reform ennill hyd at 20 o seddi yn etholiadau Cymru yn 2026.

Dywedodd Talat Chaudhri, cyn-faer Aberystwyth a Chadeirydd grŵp polisi Melin Drafod:

“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau. Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil sefyll i fyny i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.

Bydd rhai yn ystyried yr hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru yn amherthnasol – ond dydyn ni ddim yn cytuno. Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahaniaeth. Mae pob dim yn werth ei wneud o ystyried difrifoldeb y sefyllfa. Felly mae dyletswydd foesol ar ein cynrychiolwyr a’n pleidiau i ymateb.   “Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol. Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru ac mewn llefydd eraill yn y byd. Dim ond drwy weithio ar bob lefel y llwyddwn ni daclo’r pleidiau adain dde eithafol a’u hideoleg hyll sy’n bygwth cynifer o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Yn y Gymru annibynnol, bydd cyfle gennym ni greu amgylchfyd llawer iawn mwy agored a chroesawgar i fudwyr. Mae herio’r naratif gwrth-fewnfudo atgas bresennol nid yn unig y polisi moesol cywir, ond y peth gorau i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Trafodir nifer o’r cwestiynau hyn mewn uwchgynhadledd ar ddemocratiaeth a gynhelir gan Melin Drafod ar ddydd Sadwrn 8 Chwefror 2025 yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful. Caiff rhagor o fanylion eu cyhoeddi ar y wefan melindrafod.cymru.

Melin Drafod yw’r unig felin drafod sy’n edrych ar y llwybr at annibyniaeth i Gymru, a’r cwestiynau polisi sy’n codi yn sgil yr annibyniaeth honno.   Sefydlwyd yn 2021 er mwyn cefnogi, hwyluso a bod yn gyfaill beirniadol i’r mudiad annibyniaeth ar lawr gwlad. Nid yw’r Felin Drafod yn perthyn i’r un blaid wleidyddol: rydym yn gweithredu’n drawsbleidiol ac yn drawsfudiadol ac yn canolbwyntio ar roi sylw manwl i’r cwestiynau sy’n codi yn sgil y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth.

Os ydych chi am ddod yn aelod neu ragor o wybodaeth cysylltwch â post@melindrafod.cymru

Dweud eich dweud