Galeri Lluniau Eisteddfod y Ddolen

Diolch i bawb am gefnogi’r Eisteddfod!

Y Ddolen (papur bro)
gan Y Ddolen (papur bro)

Mae rhifyn Mawrth papur bro Y DDOLEN wedi cyrraedd y siopau ac ynddo cyhoeddir buddugwyr Eisteddfod 2024.

Cewch wybod pwy sydd wedi ennill y gadair gyfforddus ddefnyddiol am gerdd ysgafn ar y testun ‘Dathlu’ a phwy yw’r buddugwyr ym mhob categori arall.

Ni allwn gynnwys pob ymgais rhwng cloriau’r papur ond mae’n braf iawn gallu rhannu galeri o luniau gyda chi yma, galeri a gynhyrchwyd gan blant yr ardal yn yr adran gelf a’r lluniau ddaeth i law yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth agored.

Mwynhewch bori drwy’r casgliad. Diolch o waelod calon i’r ysgolion brwdfrydig yn ardal Y DDOLEN am eich cefnogaeth barod. Rydym yn hynod ddiolchgar o’ch cyfraniad i’r gymuned ehangach.

Mynnwch eich copi o bapur bro Y DDOLEN yn eich siop leol y penwythnos hwn neu tanysgrifiwch yma ar Bro360 i dderbyn copi digidol.