Ffarwelio â Gweinidog Diwyd

Gwasanaeth arbennig i ddiolch i’r Parch Watcyn James

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
Y Parch Watcyn a Mrs Lowri James gyda'r rhai a gymerodd ran yn y gwasanaeth

Bore Sul, 21 Gorffennaf, daeth cynulleidfa luosog o holl gapeli Gofalaeth y Garn i wasanaeth teimladwy yng Nghapel y Garn, ar achlysur ymddeoliad eu gweinidog, y Parch Dr R Watcyn James.

Llywyddwyd y cyfarfod gan Dr Rhidian Griffiths, Llywydd yr Henaduriaeth. Cymerwyd rhan gan aelodau’r gwahanol gapeli yn ogystal â rhai o blant yr ofalaeth a dau gyn-weinidog i’r ofalaeth, sef y Parch Elwyn Pryse a’r Parch Wyn Morris. Hyfryd hefyd oedd cael cwmni nifer o aelodau teulu Watcyn yn rhan o’r achlysur.

Ar ran aelodau’r capeli i gyd, cyflwynodd Alwyn Hughes, Cadeirydd yr Ofalaeth dysteb i’r Parch Watcyn James, gan gyfeirio at ei wasanaeth diflino, ei ymroddiad fel bugail gofalus, yn ogystal â’i bregethu angerddol. Yna, cyflwynwyd rhodd i Mrs Lowri James gan Heulwen Lewis, yn ogystal â thusw o flodau gan Lois Martha Roberts.

Yn dilyn y gwasanaeth, aeth nifer dda o’r aelodau draw i Grefftau Pennau i fwynhau cinio a’r cyfle i gymdeithasu – a dymuno’n dda i Watcyn a Lowri ar ddechrau pennod newydd yn eu hanes.