Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae’r Fari Lwyd ’nôl ar strydoedd Aberystwyth! Bydd cyfle i bawb ddathlu’r Hen Galan nos Wener, 12 Ionawr, gyda’r hen draddodiad Cymraeg, ac ymuno yn y pwnco!
Yn chwarae rhan y Fari bydd Siôn Jobbins, ac yn arwain yn diddanu a’r canu fe fydd y gŵr a’r wraig gweithgar a llengar, Jem Randalls (Jem Tŷ’n Rhos) a Jane Blank. Yn cyfeilio gydag alawon gwerin traddodiadol bydd band Twmpath Aberystwyth.
Bydd y Fari a’r miri yn ymddangos fel a ganlyn:
4.00pm – ger y Bandstand
5.30pm – tafarn fach y Bottle and Barrel, Cambrian Pl.
6.00pm – Tafarn yr Hen Lew Du, Stryd y Bont
7.00pm – Tafarn y Llong a’r Castell, Stryd Uchel
Bydd y Fari hefyd yn hwpo’i phen busneslyd a phryfoclyd yng nghaffis y dre ar hyd y llwybr!
Mae croeso i bawb ymuno yn y pwnc, a gaiff ei arwain tu mewn i’r tafarndai gan Jane, fydd yn chwarae rhan ‘y Betsi’.
Dyma’r geiriau:
Cân y Fari Lwyd
Parti’r Fari – yn herio
Wel, dyma ni’n dŵad,
Gyfeillion diniwad
[I ofyn cawn gennad x3] i ganu.
Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
[Beth fydd ein dymuniad x3] nos
heno.Mae Mari Lwyd lawen
a sêr a rubanau
[A chanu yw ei diben x3], mi dybiaf.Parti’r Llety – yn ateb
Rhowch glywad, wŷr difrad,
O ble ’dych chi’n dŵad
[A beth yw’ch gofyniad x3] gaf
enwi?Parti’r Fari
O ardal Llanbadarn,
Y Waun a Threfechan
[Fe ganwn ein geiriau x3] am gwrw.Parti’r Llety
Derbyniwn yn llawen
Ymryson yr awen
[I gynnal y gynnen x3] drwy ganu.Parti’r Fari
Mi ganwn am wythnos
A hefyd bythefnos
[A mis os bydd achos x3] baidd i chwi.Parti’r Llety
Mi ganwn am flwyddyn
Os cawn Dduw i’n canlyn
[Heb ofni un gelyn x3] y gwyliau.Parti’r Fari
Gollyngwch yn rhugil,
Na fyddwch yn gynnil,
[O! Tapiwch y faril x3] i’r Fari.Parti’r Llety
I’r Fari sychedig
Fe rown ein calennig
[A’r cwrw yn ffisig x3] i’w
pheswch.Parti’r Fari
Derbyniwn yn llawen,
Y croeso mewn casgen
[Cyflawnwyd y diben x3], mi dybiaf.[Mae’r geiriau mewn bachau sgwâr yn cael eu hailadrodd 3 gwaith]
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y noson! Mae wedi bod yn llond gwlad o hwyl yn y gorffennol ac mae’n braf aildanio’r hen draddodiadau gwerinol Cymreig,” meddai Jem, sy’n byw ger Llanrhystud. “Bydd ganddom ni hefyd focs casglu arian, a fydd yn mynd tuag at Ganolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Natur De-orllewin Cymru.
Ategodd Siôn, sydd hefyd yn gadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth, “Mewn byd sy’n mynd yn llai, dathlwn yr hyn sy’n ein gwneud yn unigryw fel pobl. Mae sŵn a miri’r Fari Lwyd yn ein hatgoffa bod hanes Cymru a chenedl y Cymry yn rhagflaenu’r Chwyldro Diwydiannol a’r wladwriaeth Brydeinig. Dathlwn ein bod yn hen hen genedl.”