Yr Enwog Bererinion

Gwaith mawr Mari Ellis yn gweld golau dydd

Marian Beech Hughes
gan Marian Beech Hughes
pererinion-0782

Meg Elis a Sioned Davies yn lansio cyfrol Yr Enwog Bererinion

Nos Wener, 4 Hydref, lansiwyd cyfrol arbennig yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, sef Yr Enwog Bererinion gan Mari Ellis, wedi’i golygu gan ei merch, Meg Elis.

Er iddi gael ei geni ym mhentref Dylife, sir Drefaldwyn, lle roedd ei thad yn ficer, treuliodd Mari Ellis y rhan fwyaf o’i hoes yn Aberystwyth, a bu’n weithgar gyda sawl mudiad Cymraeg ac eglwysig yn y dref. Yr oedd yn ymchwilydd diflino, a phrif faes ei hymchwil oedd ‘yr hen bersoniaid llengar’, clerigwyr o’r 18fed a’r 19eg ganrif a’u hymdrechion dros y Gymraeg mewn cyfnod anodd i’r iaith yn yr eglwys.

Mae’r gyfrol yn cynnwys detholiad o’i gwaith ar nifer o’r clerigwyr hyn, yn eu plith Gwallter Mechain, Ifor Ceri a theulu Thomas Richards. Roedd Thomas Richards yn ficer Darowen, ac mae’n nodedig oherwydd i’w bum mab hefyd fynd i’r offeriadaeth.

Cafwyd sesiwn difyr iawn gyda’r Athro Sioned Davies, Caerdydd, yn holi Meg Elis am y profiad o fynd ati i olygu gwaith ei mam a dod i wybod llawer mwy am nifer o gymeriadau amrywiol a hynod.

Mae’r gyfrol ar werth am £15 mewn siopau llyfrau, neu gellir ei harchebu’n uniongyrchol o wefan megelis.cymru (cludiant yn ychwanegol)

Dweud eich dweud