Elusen yn galw am wirfoddolwyr ac Arweinydd Tîm i’r warws

Menter sy’n hanfodol i helpu a chefnogi gwaith yr elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion.

gan Tess Thorp
2
20240805_102023
20240805_102803
20240805_102816

Os ydych chi wedi bod lawr i Ystâd Glanyrafon ger Aberystwyth yn ddiweddar byddwch chi’n fwy na thebyg wedi sylwi ar warws HAHAV Ceredigion, yn llawn dop o gelfi, cadeiriau a byrddau o ansawdd uchel. Ynghyd â’r siop ar Heol y Wig, Aberystwyth, mae’r fenter hon yn hanfodol i helpu a chefnogi gwaith yr elusen hosbis yn y cartref sy’n gweithredu yng Ngheredigion. Ond nid yw’r Warws wedi llwyddo eto i gyrraedd ei llawn botensial gan mai dim ond tri diwrnod a hanner mae’n gallu bod ar agor oherwydd diffyg gwirfoddolwyr. Mae gwir angen mwy o wirfoddolwyr arnom ar frys.

Mae amrywiaeth o dasgau y gellir eu cyflanwi yn y warws, yn amrywio o gasglu a dosbarthu dodrefn, prisio stoc, gwerthu a defnyddio’r til, didoli eitemau, adnabod gwerth eitemau ac arddangos y cyfan mewn modd fydd yn denu cwsmeriaid. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwerthu arlein, mae angen rhestru eitemau ar eBay, tra bod angen cymorth marchnata yn barhaus.

Tra’n chwlio am wirfoddolwyr, rydym hefyd yn edrych am berson brwdfrydig, llawn cymhelliant, gonest a hyblyg i weithio’n gyflogedig am dridiau yn y Warws ac i arwain ein tîm bach, ffyddlon o wirfoddolwyr a sicrhau bod y warws yn rhedeg yn esmwyth. Os oes gennych angerdd am eitemau ail law, hen bethau, gwerthu dodrefn ynghyd â sgiliau trefnu a logisteg cryf, ac rydych yn edrych am swydd gwerth chweil gydag elusen leol, dewch i siarad gyda ni.

Os am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch 01970 611550 neu anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol, yn amlinellu pam eich bod yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas ar gyfer y rôl hon at rhian.dafydd@hahav.org.uk. Cysylltwch hefyd os am drafod gwirfoddoli.

Swydd Ddisgrifiad Llawn – https://bit.ly/ArweinyddTîmWarws

Dweud eich dweud