Diwrnod llawn cyffro

Ambell un yn serennu ond siom i eraill

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans
Rali Ceredigion 2024 (07_ERC_UK_AMSTRONG_258-copy)ERC / Rali Ceredigion

Rali Ceredigion 2024

Doedd dim dwywaith pwy oedd seren dydd Sadwrn Rali Ceredigion wrth i’r gyrwyr geisio meistroli cymalau heriol Brechfa, Llyn Brianne a Nant y Moch cyn gorffen y dydd yn Aberystwyth. Enillodd Hayden Paddon o Seland Newydd saith o’r wyth cymal mewn Hyundai i20 N. Yr unig un i ennill cymal heblaw Paddon oedd y Cymro James Williams o Genarth (Hyundai i20 N). Enillodd cymal Brechfa ac fe gododd i’r ail safle yn y ras. Ond byr bu’r dathlu. Wedi 1.5km yn unig o gymal Llyn Brianne fe gafodd ddamwain a chwalwyd ei obeithion i ennill y Rali.

Ychydig o yrru gofalus ac osgoi problemau mecanyddol ac mae’n edrych yn sicr mae Paddon fydd yn ennill Rali Ceredigion am yr ail dro ac yn cryfhau ei safle ar ben Pencampwriaeth Rali Ewrop (ERC). Mae’r frwydr am y safleoedd nesaf ar frig Rali Ceredigion yn agos iawn gyda 10 gyrrwr o fewn llai na munud i’w gilydd gan gynnwys Osian Pryce yn seithfed a Meirion Evans yn unfed ar ddeg.

Ond gellir ennill pwyntiau ar gyfer sawl pencampwriaeth yn ystod Rali Ceredigion gan gynnwys Pencampwriaeth Rali Tarmac Prydain Protyre Motorsport. Cafwyd perfformiad arbennig heddiw gan Huw James o Dregaron. Roedd yn bedwerydd ar ddiwedd y dydd yn y bytholwyrdd Ford Escort MK2 a’r safle uchaf i gar gyriant dwy olwyn.

Yn y frwydr ar gyfer ennill pwyntiau ym Mhencampwriaeth Rali Prydain mae pwyntiau ar gael ar y dydd Sadwrn (Rownd 5) a dydd Sul (Rownd 6) o Rali Ceredigion.  Daeth Osian Pryce (Ford Fiesta Rally2) yn drydydd ddydd Sadwrn i ennill pwyntiau ond dim yn ddigon i drafferthu Chris Ingram (Toyota GR Yaris Rally2) sydd ar y brig.  Enillodd Ioan Lloyd (Peugot 208 Rally4) y pwyntiau yn y categori gyrwyr iau. Yn y categori Rali Agored daeth Dylan Davies (Skoda Fabia RS) o Giliau Aeron yn drydydd.

Ymlaen i gymalau Bethania a Hafod ddydd Sul cyn y seremoni gwobrwyo wrth y Bandstand am dri’r prynhawn. Dewch draw.

Ymunwch â’r sgwrs

Huw Llywelyn Evans
Huw Llywelyn Evans

Fideo o uchafbwyntiau dydd Sadwrn (Saesneg).