Diwrnod o fwynhau mewn Ffair Fai

Cylchgrawn Cara yn 5 oed!

Meinir Wyn Edwards
gan Meinir Wyn Edwards

Mae cylchgrawn Cara yn 5 oed eleni, ac i ddathlu’r garreg filltir rydyn ni’n cynnal Ffair Fai yn adeilad y Bandstand ar y prom yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 4 Mai, rhwng 11 a 4 o’r gloch.

Cylchgrawn sy’n rhoi platfform i fenywod, gan fenywod ac am fenywod yw Cara, ac mae hyrwyddo hunan-les yn rhan ganolog o’n hethos ni ers y cychwyn cyntaf, ym mis Ebrill 2019. Ers hynny rydyn ni wedi cynnal ymgyrch ar-lein #Caradyhun, ac wedi cyhoeddi erthyglau’n ymwneud ag iechyd a llesiant ym mhob rhifyn o’r cylchgrawn print ac ar ffurf blog ar ein gwefan. Yn 2023 fe wnaethon ni gyhoeddi’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg am y menopos, sef Menopositif: Cara dy hun drwy’r Newid Mawr.

Iechyd a hunan-les sydd y tu ôl i’r syniad o gynnal Ffair Fai Cara hefyd. Rydyn ni wedi gwahodd 14 o fusnesau sy’n cael eu rhedeg gan fenywod i ddod â stondin i ganol bwrlwm prom y dref ger y lli. Ein gobaith yw y bydd pawb sy’n ymweld â’r Ffair Fai yn teimlo’n well, ac wedi cael modd i fyw ar ôl bod yno. Bydd cyfle i ymlacio trwy gael sesiynau adweitheg a thylino pen; prynu anrhegion fel gemwaith, canhwyllau, bwyd a diod Cymreig, llun neu golur. Bydd cyfle hefyd i gael cyngor arbenigol gan gwmnïau cynnyrch gwallt a chroen.

Y cwmnïau fydd yno yw:

Canhwyllau Gweni

Brownis Hathren

Gemwaith Vicky Jones

Siop y Bont, Pontrhydfendigaid

Crefftau Gelli

Hafan Holistaidd

Adweitheg Trît

Neal’s Yard

Olew Hair

Tanya Whitebits

HIWTI

Maeth Natur

Bocsys Dymuno

Siop Medi

Bydd cylchgrawn Cara yno hefyd wrth gwrs, a bydd Richard James o salon enwog Cyrl Cymru yn steilio gwallt enillydd lwcus ein cystadleuaeth arbennig (dyddiad cau 20 Ebrill – mae mwy o fanylion ar ein tudalennau Facebook ac Instagram). Bydd y gantores a’r gyfansoddwraig Bethany Celyn yn perfformio, ac arddangosfa glocsio gan grŵp o ferched, Dawnswyr Seithenyn, y ddau’n dod â sain unigryw i’r prom, a gwledd i’r llygad.

Dewch draw i ymuno â ni am ddiwrnod o hwyl a hunan-les!

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â chylchgrawn Cara drwy e-bostio cylchgrawncara@gmail.com, drwy adael neges ar ein tudalen Facebook neu Instagram @cylchgrawncara neu drwy ein gwefan www.cara.cymru/cysylltu.

Dweud eich dweud