Wel am ddiwrnod! O fore gwyn tan nos! Gig yn y Castell – cerddoriaeth wych a dawnsio, stondinau difyr, bwyd blasus, chwerthin plantos yn chwarae a phobl yn cloncian a joio. A hyn i gyd am ddim diolch i drefnwyr ymroddgar Cyngor Tref Aberystwyth. Roedd yn fenter, yn fentrus, a rywsut dylanwadwyd ar y tywydd i fihafio.
Un o’r sefydliadau a wahoddwyd i gymryd stondin yn y digwyddiad oedd Ymgyrch Dinas Llên. Ymgyrch ydyw i sicrhau statws Dinas Llên UNESCO i Aberystwyth a Cheredigion. Mae’n statws aruchel sydd wedi ei dyfarnu i 53 dinas ledled y byd – 4 o rheiny yn Lloegr, 1 yn yr Alban ond hyd yma does yna ddim un yng Nghymru. Felly dyma ddechrau ymgyrch i geisio gwneud iawn am hynny!
Rwy’n eich clywed yn dweud ‘wel, sut all hyn ddigwydd? – dyw Aberystwyth ddim yn ddinas. Nac ydy wir, ond ry’n ni’n gymwys oherwydd bod yma Brifysgolion yng Ngheredigion a phencadlys nifer o sefydliadau o bwys gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Ar ben hyn i gyd mae gan y sir gannoedd o lenorion ac mae gennym hanes o ddiwylliant llenyddol yn ymestyn o oes mynachod Ystrad Fflur a Dafydd ap Gwilym i feirdd a llenorion heddiw .
Ond i ddod ’nôl i Ŵyl y Castell. Gwahoddwyd bardd y dref, Eurig Salisbury, gan Ymgyrch Dinas Llên, i lunio cerdd i ddathlu’r Ŵyl (gellir darllen y gampwaith yma ar Gŵyl y Castell | Medi 2024 – eurig salisbury ac fe’i darllenwyd ganddo ddydd Sadwrn i gymeradwyaeth gynnes gan y dorf. Ar ben hyn fe wahoddwyd pobl oedd yn ymweld â stondin Dinas Llên i brofi bod yna fardd ymhob un ohonom drwy gyfrannu gair neu frawddeg i ddisgrifio’r Ŵyl. Y bardd Arwel “Rocet” Jones wedyn oedd â’r dasg o lunio cerdd o’r cyfraniadau. A dyma hi. Cerdd sy’n dathlu bywiogrwydd lliwgar Cymreig ein gŵyl ni.
Gŵyl y Castell
14 Medi 2024
Wylan,
fel drôn uwch y dre,
edrycha;
rôl hirlwm o haf
mae’r haul yn gwisgo’i sbectol
a’r Gymraeg,
â gwres ar ei gwar,
yn ysgwyd llaw a chwerthin
a chwrdd â hen gyfeillion,
a’i hacenion fel cynion
yn naddu atgofion
i gerrig caled y castell,
cyn eu dwyn i godi neuadd braf
ble bydd dawnsio
a chanu
a chariadon yn sibrwd
hen chwedlau newydd
yng nghlustiau’i gilydd,
a churiad calon cymuned
yn cyflymu.
Wylan,
fel drôn uwch y dre,
dan lamp o leuad glòs,
tafla atgofion
yn lliwiau swnllyd
ar furiau’n gaeafau;
o Haf Bach San Mihangel,
y trai di troi
a’r llanw’n llawn
o’n lleisiau ni
yn mynnu
mai ‘fel’ma da ni’
ac mai ‘fel hyn da ni fod.’
Rocet Arwel Jones 15/09/2024