Ar nos Wener Hydref 25ain fe gafwyd noson gwbl hyfryd yn Y Llew Gwyn, Talybont gyda’r canwr-gyfansoddwr adnabyddus Delwyn Sion diolch i Sesiwn Nos Wener Talybont.
Yn grwt o Aberdâr fe aeth Delwyn â’r gynulleidfa ar daith o Gwm Cynon ei blentyndod i ‘ddyddiau da’ y Brifysgol yn Aberystwyth a’r band poblogaidd Hergest.
Noson o sgwrs a chân acwstig oedd hon gyda’r gynulleidfa yn rhoi’r gwrandawiad mwyaf astud i Delwyn fel mae pob perfformiwr yn ei gael yn Nhalybont.
Yn gerddor amryddawn, roedd ei sgiliau slic a’i gordiau diddorol ar y gitâr yn cynnig cyfeiliant cynnil ond lliwgar i’w lais bytholwyrdd.
Diolch yn fawr i Delwyn am ein diddanu gyda’i straeon digri a’i repertoire llawn clasuron a diolch hefyd i griw Sesiwn Nos Wener Talybont am drefnu noswaith arall o safon.
Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni fydd y nesaf i deithio trwy’r niwl ar fryniau Dyfed i ddiddanu yn y Llew Gwyn a hynny ar Nos Wener Ionawr 24ain felly beth am ddod a mwynhau noson Gymraeg gwych ar y stepen drws?