Dechrau Rali Ceredigion 2024

Dau gymal yn Aberystwyth i gychwyn y rasio go iawn

Huw Llywelyn Evans
gan Huw Llywelyn Evans

Roedd miloedd o ddilynwyr rali wedi amgylchyni’r Castell i wylio diwrnod cyntaf Rali Ceredigion. Dechreuodd y gweithgareddau yn Aberystwyth yn y prynhawn ger y Bandstand gyda’r plant a rhai ychydig yn hŷn yn casglu llofnodion y prif yrwyr. Yna’r dechrau seremonïol gyda’r ceir yn edrych ar eu gorau wrth ymlwybro’n araf tua dechrau’r cymal cyntaf ger cae Coedlan y Parc.

Am chwech o’r gloch dechreuodd y rasio go iawn wrth i’r gyrwyr wibio trwy strydoedd cefn y dref tua’r harbwr ac ar hyd i prom i’r diwedd ger yr Hen Goleg. I roi gwerth eu harian i’r dorf, cwblhawyd y cymal am yr ail dro i gloi’r diwrnod cyntaf.

Hayden Padden o Seland Newydd yn yr Hyundai i20 N sydd ar y blaen ar ôl y ddau gymal. Mae ef 1.3 eiliad ar y blaen i Andrea Mabellini o’r Eidal ac 1.7 eiliad ar y blaen i Miko Marczyk o wlad Pwyl, y ddau mewn Skoda Fabia RS.

Mae prif yrwyr o Gymru wedi cael dechrau digon gofalus gyda James Williams o Genarth yn ddegfed yn yr Hyundai i20 N, Osian Pryce o Fachynlleth yn y Fiesta MKII yn drydydd ar ddeg a Meirion Evans o Harford ger Llanbed yn ail ar bymtheg yn y Toyota GR Yaris. Mae’r gyrrwr ifanc o Landysul, Ioan Lloyd yn y Peuogot 208 Rally yn nawfed ar hugain.

Mae’n ddyddiau cynnar ac rwy’n siŵr byddant yn edrych ymlaen at y cymalau hirach a mwy heriol ddydd Sadwrn ym Mrechfa, Nant y Moch a Llyn Brianne cyn dychwelyd i Aberystwyth am ddau gymal byr arall o amgylch y dre.

Bydd sylw i yrwyr eraill o’r canolbarth yn yr adroddiad nesaf a mwy o sylw i Bencampwriaeth Rali Prydain.

Dweud eich dweud