Dathlu Hanner Canrif Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth

Mae’r Undeb Myfyrwyr Cymraeg cyntaf erioed yn dathlu hanner canrif eleni

Catrin hopkins
gan Catrin hopkins

Sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) ym 1974 er mwyn cynrychioli llais myfyrwyr Cymraeg y brifysgol. Ers hynny, mae’r Undeb wedi chwarae rhan allweddol mewn nifer o ymgyrchoedd megis yr ymgyrch i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn fwy diweddar, Achub Pantycelyn. Bydd cyfle i chi glywed hanes cyfoethog UMCA yn y sesiwn holi ac ateb gyda chyn-lywyddion o bob degawd rhwng 15:30-16:30 Ddydd Sadwrn 15 Mehefin.

Er mwyn dynodi’r achlysur arbennig hwn, mae Llywydd UMCA eleni, Elain Gwynedd wedi trefnu diwrnod llawn dathlu gan gynnwys:

  • Byffe i’r cyn-lywyddion yn Yr Hen Lew Du, hafan UMCA wrth gwrs.
  • Teithiau Tywys o amgylch Pantycelyn rhwng 13:00-15:00.
  • Sesiwn Holi ac Ateb gyda chyn-lywyddion o bob degawd ym Mhantycelyn rhwng 15:30-16:30.
  • Ac yna i goroni’r cyfan, Gwyl UMCA 50 i fyny yn Undeb Aberystwyth gyda Mynediad am Ddim, sydd hefyd yn dathlu hanner canrif eleni, Dros Dro, Cyn Cwsg a Mei Emrys.

Wrth siarad am y dathliadau, dywedodd Elain Gwynedd, Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb Aberystwyth a Llywydd UMCA:

‘Fuoch chi’n fyfyriwr yn Aberystwyth? Fuoch chi’n aros ym Mhantycelyn? Heidiwch yn ôl i Aberystwyth am ddiwrnod arbennig o ddathlu hanner canrif y genhadaeth.

‘Mae gen i atgofion gwerthfawr iawn o fy amser i fel aelod o UMCA ac felly ‘dw i’n edrych ymlaen yn arw at gael dathlu hanner canrif Undeb arbennig sydd mewn gwirionedd wedi fy ngwneud i’n bwy ydw i heddiw.’

1 sylw

Wayne Marc Williams
Wayne Marc Williams

Annwyl aelodau, swyddogoion a chyn-swyddogion

Dim ond nodyn i ddymuno’n dda ar gyfer y dathliadau ar y 15fed.
Anodd credu bod hanner can mlynedd wedi mynd heibio!!
Roedd yn amhosibl ddirnad ar y pryd sut fyddai’r egin syniad, wrth ymateb i ddirmyg yr undeb Saesneg tuag at y Gymraeg, yn blodeuo a chryfhau ar hyd y degawdau a chael cymaint o ddylanwad ar gynifer o ddatblygiadau.
Mwynhewch y dathlu ac
YMLAEN AT YR HANNER CANT NESAF!!

Pob hwyl
Wayne Williams

Mae’r sylwadau wedi cau.