Mae Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ymlaen at dymor newydd o raglenni a fydd yn dechrau’n fuan.
Mae’r adran unigryw hon yn y Brifysgol yn cynnig ystod eang o gyrsiau byr mewn amrywiaeth o feysydd pwnc ac maent yn agored i bawb. Mae cyrsiau ar gael yn y meysydd canlynol: Celf a Dylunio, Ysgrifennu Creadigol, Hanes, Hel Achau ac Archaeoleg, Ecoleg a Chadwraeth, Ieithoedd, Seicoleg a Datblygiad Proffesiynol. Gellir eu hastudio fel cyrsiau annibynnol neu gall dysgwyr weithio tuag at gymhwyster addysg uwch.
Mae’r Adran yn falch o fod wedi recriwtio sawl tiwtor newydd i’r tîm addysgu. Mae llawer ohonynt wedi datblygu cyrsiau newydd cyffrous a fydd yn dechrau ym mis Hydref. Bydd Rhodri Lewis yn cyflwyno cwrs hynod ddiddorol ar henebion a’u hystyron – gan edrych ar sawl cofeb leol a chenedlaethol, eu diben, eu heffaith yn ogystal â rhai henebion dadleuol sydd wedi ymddangos yn y newyddion yn ddiweddar.
Ym maes Ecoleg a Chadwraeth, bydd Valentine Borges yn cyflwyno cwrs sy’n edrych ar redyn a phlanhigion nad ydynt yn blodeuo a bydd y nyrs cymwysedig, Darren Prince, yn cyflwyno’r cwrs ‘Toolkit for supporting someone with dementia’.
Er mwyn galluogi mynediad i bawb, cedwir ffioedd y cyrsiau mor gystadleuol â phosibl, ac maent hefyd yn gweithredu Cynllun Hepgor Ffioedd i gefnogi unigolion na fyddai’n gallu cael mynediad at addysg uwch fel arall.
Mae llawer o’r cyrsiau’n cael eu cyflwyno ar-lein er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i ddysgwyr astudio pryd a ble maen nhw eisiau, ond mae cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb yn parhau i gael eu cynnig.
Yn wir, mae Stiwdio Gelf yr adran wedi symud yn ddiweddar i Adeilad yr Arglwydd Milford ar Gampws Gogerddan, ar gyrion Aberystwyth. Mae’r ystafell addysgu yn olau ac awyrog, gallwch barcio am ddim ac mae mynediad cyfleus i bobl anabl. Dim ond 15 munud ar droed ydyw o Orsaf Drenau Bow Street ac mae’r adeilad ar lwybr bws Penrhyn-coch (gwasanaeth bob dwy awr, Rhif 526) ac yn agos i’r llwybr beicio i Bow Street.
Dywedodd Elin Mair Mabbutt, Pennaeth Dysgu Gydol Oes: “Mae’r lleoliad newydd hwn yn wych ac mae’n ein galluogi i ddarparu cyrsiau ar amrywiaeth o amseroedd i ddiwallu anghenion ein myfyrwyr. Mae’r adeilad o fewn cyrraedd hawdd i goetir a mannau gwyrdd a fydd yn cyfoethogi’r dysgu ar gyfer rhai o’r cyrsiau ymarferol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu dysgwyr i’n cartref newydd ar gyfer Celf a Dylunio”.
Cynhelir digwyddiad galw heibio anffurfiol ddydd Mercher, 25 Medi rhwng 4yp a 7yh yn Adeilad yr Arglwydd Milford. Yn ystod y digwyddiad yn y Stiwdio Gelf, bydd ein tiwtoriaid yn arddangos technegau dylunio amrywiol a bydd ein staff wrth law i ddweud mwy wrthych am Ddysgu Gydol Oes a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol.
Am wybodaeth bellach am y cyfleoedd sydd ar gael gan Dysgu Gydol Oes ewch i aber.ac.uk/dysgu neu ffoniwch 01970 621580.